MAE’R amser wedi dod i Lywodraeth Cymru weithredu’n gadarn i warchod cymunedau a prynwyr tro cyntaf yn erbyn yr annhegwch economaidd sy’n deillio o orweithiant ail dai, yn ôl Plaid Cymru.

Heddiw (Medi 23) mae Plaid Cymru yn cyhoeddi adroddiad 16-tudalen sydd yn cynnwys pum prif argymhelliad cyn dadl yn y Senedd fydd yn digwydd yn y prynhawn.

Mae’r mesurau fydd yn cael eu cynnig yn cynnwys:

Newidiadau i’r maes cynllunio fyddai’n galluogi cynghorau i osod cap ar ail gartrefi ym mhob cymuned, gwrthod ceisiadau i newid defnydd eiddo o fod yn eiddo cynradd i ail eiddo ac atal tai newydd rhag cael eu pryni fel ail dai mewn ardaloedd lle mae ail dai yn cynrychioli dros 20% o’r farchnad;

Caniatáu i gynghorau codi’r dreth cyngor y gellid ei godi ar ail gartrefi i o leiaf 200% chael Llywodraeth Cymru i dreblu cyfradd uwch y Dreth Trafodiadau Tir (LTT) ar bryniant ail dai;

Cau’r bylchau a diweddaru’r gyfraith sy’n golygu bod modd optio allan o drethi domestig ac o’r premiwm treth cyngor o ganlyniad;

Rheoli’r gallu i osod tŷ annedd ar sail tymor byr drwy gwmnïau fel AirBnB am rannau helaeth o’r flwyddyn, drwy sicrhau rhagor o drosolwg o’r arfer – o bosib drwy system o drwyddedu; a hefyd

Dod â thai o fewn cyrraedd lleol – gan gynnwys y posibilrwydd o sefydlu cronfa i alluogi awdurdodau lleol i ddatblygu tai gydag amod lleol arnynt ond ar sail ‘nid er elw’. [gan edrych o’r newydd ar ddiffiniad ‘tŷ fforddiadwy’ sydd ar hyn o bryd yn cynnwys eiddo gwerth dros £250,000]

Yn siarad am gyhoeddiad yr adroddiad o flaen y ddadl yn y Senedd, dywedodd gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros dai Delyth Jewell AS,

“Mae pobl ar draws Cymru wedi clywed y cri o boen o’r gogledd orllewin dros y misoedd diwethaf, wrth i’r argyfwng tai haf ddwysau yn sgil yr argyfwng Covid-19.

“Prif bwrpas datganoli oedd ymbweru Cymru i ni allu datrys ein problemau ein hunain, ond mae hon yn sefyllfa sydd wedi parhau i gael ei hesgeuluso wrth i drigolion lleol weld prisiau tai yn cynyddu tu hwnt i bobl rheswm gan brisio pobl allan o’r cymunedau a gwanhau seiliau’r iaith yn y cadarnleoedd.

“Cafodd traean o dai yng Ngwynedd a Môn eu prynu fel ail dai yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ac mae 12% o stoc tai Gwynedd bellach yn ail dai dan berchnogaeth pobl tu allan i’r sir, sydd ymysg yr uchaf yn Ewrop.

“Mae’r cyfres o fesurau mae Plaid Cymru yn eu cyhoeddi heddiw wedi eu dylunio er mwyn dod â’r sefyllfa dan reolaeth a grymuso cymunedau gydag ymyraethau penodol a chytbwys, ac rwy’n gobeithio bydd Llywodraeth Cymru yn eu hystyried o ddifri.”

Ychwanegodd Ms Jewell:

“Mae gwledydd ledled y byd wedi gweithredu yn wyneb amgylchiadau tebyg, er enghraifft mae Seland Newydd a Denmarc wedi gwahardd gwerthu tai i bobl sydd ddim yn ddinasyddion, ac mae rhanbarth Bolzano yn yr Eidal wedi cyfyngu ar werthiant tai haf i bobl o’r tu allan i’r rhanbarth.

“Allwn ni ddim parhau fel hyn, dyw e ddim yn deg fod pobl sydd eisoes yn byw mewn ardaloedd sydd dan anfantais oherwydd diffyg cyfleon gwaith a chyflogau teg hefyd yn gorfod gweld eu cymunedau’n cael eu trawsnewid wrth i bobl leol orfod gadael er mwyn prynu tŷ.

“Rwy’n poeni’n enwedig am yr effaith ar yr iaith – bydd yn staen ar gydwybod y genedl os yw’r iaith yn cael ei cholli yn y cadarnleoedd oherwydd fod Llywodraeth Cymru rhy wan i weithredu.

“Ond mae’r broblem ail dai yn effeithio ar Gymru gyfan – byddai’r mesurau o ran tai fforddiadwy, graddau LTT a’r cymal lleol o fodd i brynwyr tro cyntaf ledled Cymru.”

For More Hyperlocal News Stories Click on the Banner
, ,
Related Posts
Latest Posts from Wales News Online