MAE Plaid Cymru wedi lansio ei Chynllun Adfer Addysg, wrth iddi ddod i’r amlwg bod plant yng Nghymru wedi colli tua hanner blwyddyn o ddysgu yn ystod y pandemig.
Wrth siarad cyn Cynhadledd Wanwyn Plaid Cymru (dydd Gwener 5 Mawrth), amlinellodd Gweinidog Addysg yr Wrthblaid Siân Gwenllian AS ei chynlluniau i helpu pob plentyn, person ifanc ac ysgol i wella ar ôl COVID-19.
Plant mewn ardaloedd mwy difreintiedig sydd wedi bod allan o’r dosbarth fwyaf. Mae ardaloedd difreintiedig wedi gweld cyfraddau heintio uwch yn arwain at gyfraddau absenoldeb ysgol uwch, ac mae’r plant hyn yn llai tebygol o allu manteisio ar ddysgu o bell oherwydd diffyg mynediad at ddyfeisiau digidol priodol. Clywodd un o Bwyllgorau’r Senedd dystiolaeth yn ddiweddar mai ysgolion yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig oedd â’r nifer lleiaf o achosion o fewngofnodi i byrth dysgu ar-lein.
Byddai cynllun Adfer Addysg Plaid Cymru yn:
· Cefnogi ysgolion a disgyblion i ddelio â chanlyniadau COVID-19 drwy fuddsoddi mewn athrawon a chynyddu gweithio un-i-un a grŵp bach;
· Sefydlu Cynllun Gwirfoddolwyr Athrawon cenedlaethol dwy flynedd, wedi’i anelu at athrawon sydd wedi ymddeol a gweithwyr addysg proffesiynol eraill;
· Ymgysylltu ag ymarferwyr artistig i helpu disgyblion i fynegi eu profiadau COVID-19 yn greadigol;
· Atal arolygiadau ysgolion Estyn am flwyddyn a chael gwared ar fiwrocratiaeth ddiangen.
Eglurodd Gweinidog Addysg yr Wrthblaid fod ei chynllun yn canolbwyntio ar yr angen i gefnogi athrawon i arwain ar yr adferiad addysg, drwy Ymdrech Genedlaethol i gynyddu’r gweithlu sydd ar gael.
Dangosodd adroddiad diweddar fod Cymru’n gwario llawer llai ar adferiad addysg na’r Alban – wyth deg wyth punt y disgybl yng Nghymru o’i gymharu â dau gant o bunnoedd fesul disgybl yn yr Alban.
Dywed Ms Gwenllian mai plant yw “ein dyfodol” ond eu bod mewn perygl o gael eu “cosbi” gan ddiffyg uchelgais gan Lywodraeth Lafur Cymru.
Dywedodd Gweinidog Addysg cysgodol Plaid Cymru, Sian Gwenllian AS,
“Mae plant a phobl ifanc wedi colli hanner blwyddyn o addysg wyneb yn wyneb. Ble mae’r cynllun gan Lywodraeth Cymru i helpu i’w cefnogi wrth iddynt wella o effeithiau’r pandemig?
“Byddai Plaid Cymru yn gweithredu cynllun adfer addysg deinamig yn syth ar ôl Etholiad mis Mai. Fel y Gweinidog Addysg mewn Llywodraeth Plaid Cymru, byddwn yn gweithio gyda’r sector addysg i gefnogi ysgolion gyda Ymdrech Genedlaethol Fawr i ddenu mwy o staff gan gynnwys y rhai sydd wedi ymddeol yn ôl i’r ystafell ddosbarth.
“Y nod fyddai creu gweithlu ychwanegol o weithwyr addysg proffesiynol yn ogystal â gwirfoddolwyr a fyddai ar gael i benaethiaid i’w helpu i roi sylw i ddisgyblion ar sail un-i-un ac mewn grwpiau bach.
“Byddai’r Cynllun Adfer Addysg yn rhoi hwb i’r daith o roi plant a phobl ifanc Cymru wrth wraidd popeth y mae Llywodraeth ein gwlad yn ei wneud. Byddai’n rhan o raglen i fuddsoddi mwy mewn ysgolion ac addysgu. Byddai’n cychwyn ar brosiect hanfodol i greu system addysg a fyddai unwaith eto’n cael ei edmygu ledled y byd – ac yn bwysicach, cam cyntaf tuag at chwarae teg i BOB plentyn a pherson ifanc, beth bynnag fo’u hamgylchiadau.
“Plant yw ein dyfodol – ac eto mae eu gorffennol wedi’i ddifetha gan ddeng mlynedd o danfuddsoddi gan Lywodraeth Lafur Cymru.
“Heb gynllun gan Lywodraeth Cymru, dim ond un dewis sydd yn y blwch pleidleisio ym mis Mai os ydych am roi’r dechrau gorau mewn bywyd i’n plant. Pleidlais i Blaid Cymru yw pleidlais i’n plant a phleidlais dros ddyfodol Cymru.
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m