YN ddiweddar, mae Archifau Powys wedi prynu llawysgrif brin sy’n dogfennu tir a brynwyd yn Pennsylvania yn yr ail ganrif ar bymtheg.
Mae’r cytundeb dyddiedig 1682 yn cofnodi gwerthiant dau gan erw o dir yn Pennsylvania gan Richard Davies, Crynwr amlwg o’r Cloddiau, ger y Trallwng, i Margaret James, hen ferch o blwyf yr Eglwys Newydd, Sir Faesyfed.
Prynwyd y ddogfen gyda chymorth Clwb Powysland, y gymdeithas hanesyddol ar gyfer sir Drefaldwyn a Chymdeithas Hanes Teulu Powys.
Dywedodd David Hall, Cadeirydd Clwb Powysland:
“Mae llawysgrifau prin o’r math hwn yn bwysig ac yn cyfrannu at dreftadaeth a diwylliant cyfoethog y sir. Mae Clwb Powysland yn hyrwyddo ac yn cefnogi ymchwil hanesyddol, a bwriadwn gyhoeddi trawsgrifiad o drawsgludiad 1682 yn ein rhifyn nesaf o Gasgliadau Sir Drefaldwyn. Gobeithiwn y bydd hyn yn nnog mwy o ymchwil am deuluoedd lleol a ymfudodd i America yn yr ail ganrif ar bymtheg.”
Meddai Phil Bufton, Cadeirydd Cymdeithas Hanes Teulu Powys:
“Gall llawer o deuluoedd yn America olrhain eu gwreiddiau i hen Siroedd Maesyfed a Threfaldwyn, ac mae’r llawysgrif hon yn darparu tystiolaeth uniongyrchol o bobl leol yn prynu tir ac yn ymfudo i Pennsylvania bron i 340 mlynedd yn ôl. Mae Cymdeithas Hanes Teulu Powys yn croesawu aelodau newydd, a gallwn roi cyngor am wahanol ffynonellau ar gyfer ymchwil hanes teuluol.”
Dywedodd y Cynghorydd Rachel Powell, Aelod Portffolio Cyngor Sir Powys dros Bobl Ifanc a Diwylliant:
“Rydym yn hynod falch ein bod wedi llwyddo i sicrhau’r llawysgrif bwysig hon ar gyfer Archifau Powys ac rydym am ddiolch i Glwb Powysland a Chymdeithas Hanes Teulu Powys am ein helpu i’w brynu. Mae croeso mawr i drigolion Powys ac ymwelwyr â’r sir ymweld â’r gwasanaeth yn Llandrindod a gweld y rhain a llawer o ddogfennau unigryw eraill a allai helpu gydag ymchwil hanes teuluol a lleol.”
Bu nifer o bobl Gymreig a fyddai’n ymfudo yn y dyfodol, gan sefydlu Drefgordd Maesyfed i bob pwrpas, yn dystion i’r cytundeb, a chofnodwyd efo yn ddiweddarach yn y Gofrestrfa yn Philadelphia o dan lofnod Thomas Lloyd, Meistr y Rholiau a Dirprwy Lywodraethwr i William Penn. Roedd Lloyd hefyd yn ddyn o Sir Drefaldwyn, yn fab i Charles Lloyd o Dolobran. Priododd Margaret James wythnos yn ddiweddarach ac allfudodd hithau hefyd i Pennsylvania.
Roedd Crynwyr yng Nghymru’r ail ganrif ar bymtheg yn wynebu’r carchar a dirwyon am fethu â chymryd y Llw Teyrngarwch ac am arddel eu ffydd yn agored. Oherwydd hyn, ceisiodd llawer ohonynt gartref newydd yn yr Unol Daleithiau. Fodd bynnag, oherwydd bod Crynwyr wedi dioddef erledigaeth yno hefyd, aeth William Penn a Chrynwyr Prydeinig eraill ati i brynu rhandiroedd, gan brynu rhan fawr o’r hyn sydd bellach yn New Jersey. Tref Maesyfed yw un o’r bwrdeistrefi hynaf yn Pennsylvania ac fe’i sefydlwyd fel rhan o’r rhandir Gymreig.
More Stories
Conservatives’ Lack of Action on Obscene Energy Profits “Indefensible” says Welsh Lib Dems
New Audit Office Report on Poverty in Wales supports Plaid Cymru’s calls
Successful Operation targeting anti-social driving across Newport and Monmouthshire