GOFYNNIR i bobl am eu sylwadau ynghylch strategaeth toiledau ddrafft y Cyngor.
O dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, mae’n ddyletswydd ar Gyngor Sir Caerfyrddin i gyhoeddi Strategaeth Toiledau Lleol.
Mae’r strategaeth ddrafft wedi’i llunio yn seiliedig ar ganlyniadau’r arolwg cyhoeddus y llynedd o ran darpariaeth toiledau ledled y sir.
Bellach, gall aelodau’r cyhoedd weld pa gamau y mae’r cyngor am eu rhoi ar waith yn seiliedig ar eu hadborth.
Mae’r Cyngor yn gweithredu nifer o gyfleusterau cyhoeddus ledled y Sir ac er bod gan awdurdodau lleol y pwerau i ddarparu toiledau, nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol i wneud hynny.
Gan fod llai o adnoddau, mae’r strategaeth yn nodi ymagwedd strategol tymor hir y cyngor o ran darpariaeth toiledau gan amrywiaeth o ddarparwyr ledled y Sir.
Mae’r ymgynghoriad yn gofyn am farn pobl ynghylch a allai cwmnïau cyhoeddus a phreifat wneud mwy i helpu i sicrhau bod cyfleusterau toiled ar gael, ac ynghylch datblygu cynllun partneriaeth gymunedol.
Mae hefyd yn ystyried darparu toiledau ‘changing places’ i ddefnyddwyr anabl; yn ystyried a ddylid annog trefnwyr digwyddiadau i ddarparu toiledau dros dro; ac yn ystyried codi tâl ar gyfer defnyddio cyfleusterau er mwyn atal camddefnydd a fandaliaeth.
Gwahoddir pob preswylydd, busnes a sefydliad i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, sef arolwg byr ar-lein, sy’n cael ei gynnal tan 12 Mai, 2019.
Ewch i’r adran ymgynghori, neu gofynnwch am gopi papur yn unrhyw un o ganolfannau gwasanaeth cwsmeriaid y cyngor.
Bydd adborth yn cael ei ystyried cyn bod Strategaeth Toiledau Lleol Cyngor Sir Caerfyrddin yn cael ei chyhoeddi’n derfynol.
12 Mai, 2019
More Stories
Cymorth llifogydd gwerth £6.5m i gymunedau Cymru | £6.5m flooding support for Welsh communities
Diwrnod Cofio’r Holocost
Gofyn i’r gynulleidfa / Ask the audience