09/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

MAE cynlluniau i fuddsoddi yn Llyfrgell Rhiwbeina er mwyn ddarparu gwasanaethau ychwanegol a gwell i’r gymuned wedi’u dadlennu.

Mae’r Cyngor yn cynnal ymarfer ymgysylltu ar gynigion i adnewyddu adeilad y llyfrgell a chreu’r cyfleuster diweddaraf yn rhwydwaith hybiau cymunedol y ddinas. Y nod fydd darparu mwy o wasanaethau Cyngor a sefydliadau partner yno, yn seiliedig ar y thema lles.

Gyda chyllid gan Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru ar gyfer y datblygiad, mae’r Cyngor yn cynnig creu cyfleusterau newydd a gwell yn y dderbynfa, mannau cyfarfod ychwanegol ar gyfer darparu gwasanaethau a chynnal gweithgareddau cymunedol, silffoedd llyfrgell ac ardaloedd eistedd newydd a gwell cyfleusterau TG a Wi-Fi. Byddai’r gwaith adnewyddu yn cynnwys ailaddurno’r mannau cyhoeddus y tu mewn i’r adeilad mewn dull sy’n ystyriol o bobl gyda dementia a chreu man awyr agored deniadol ac ymarferol.

Yn y dyfodolbydd gwasanaethau’n cael eu llunio mewn partneriaeth â’r gymuned leol a byddant yn cynnwys cynnal amrywiaeth o weithgareddau sy’n canolbwyntio ar iechyd a lles.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:

“Gan adeiladu ar lwyddiant ein rhaglen hybiau cymunedol, ac yn fwyaf diweddar y gwaith o droi llyfrgelloedd yr Eglwys Newydd a Rhydypennau yn hybiau lles modern, addas i’r diben, mae Llyfrgell Rhiwbeina nawr yn destun buddsoddiad ac adfywiad a fydd yn dod ag amrywiaeth o fanteision i’r gymuned leol.

“Mae hybiau’n darparu mwy o wasanaethau a gwell gwasanaethau mewn ffordd gydgysylltiedig.  Yn ogystal â gwasanaeth llyfrgell modern a chynaliadwy, bydd ein cynlluniau o ran y ddarpariaeth yn adeilad y llyfrgell yn canolbwyntio’n gryf ar iechyd a lles.  Bydd pobl leol yn gallu manteisio i’r eithaf ar yr ased gwych hwn sydd wrth wraidd y gymuned, gyda gwelliannau i’r adeilad ei hun a’r gwasanaethau rydym yn eu darparu yno i ddiwallu anghenion cwsmeriaid.”

Mae rhagor o fanylion am y cynnig bellach ar gael yn www.cardiffneighbourhoodregeneration.co.uk lle gall unrhyw un sydd â diddordeb yn y cynlluniau ddysgu mwy a dweud eu barn. Gall aelodau o’r cyhoedd sydd am drafod y prosiect gydag aelod o’r tîm adfywio hefyd drefnu galwad yn ôl drwy e-bostio eu manylion cyswllt iadfywiocymdogaethau@caerdydd.gov.uk

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw dydd Mercher, 3 Mawrth.  Bydd y safbwyntiau a fynegir yn cael eu hystyried wrth ddatblygu cynigion terfynol ar gyfer y cynllun.

%d bloggers like this: