04/24/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Clinigau Brechu COVID-19 pwrpasol ar gyfer beichiogrwydd a bwydo ar y fron | Dedicated pregnancy and breastfeeding COVID-19 vaccination clinics |

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnal clinigau brechu COVID-19 cynenedigol a bwydo ar y fron pwrpasol mewn pedair canolfan brechu torfol bob bore Mawrth.

Er y bydd pob canolfan brechu torfol ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn gallu brechu unrhyw un sy’n feichiog neu’n bwydo ar y fron a bydd y clinigau cynenedigol yn cael eu cynnal gan fydwraig pe bai unrhyw un yn dymuno derbyn cwnsela a chyngor ychwanegol ynghylch derbyn y brechlyn yn ystod beichiogrwydd.

Bydd y clinigau pwrpasol yn rhedeg bob bore Mawrth rhwng 9am ac 1pm yn y canolfannau brechu torfol canlynol:

Canolfan Gynadledda Halliwell, Prifysgol y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin, SA31 3EP
Theatr Ffwrnes, Stryd y Parc, Llanelli, SA15 3YE
Archifdai Sir Benfro, Prendergast, Hwlffordd, SA61 2PE
Llyfrgell Thomas Parry, Campws Llanbadarn, Prifysgol Aberystwyth, Aberystwyth, SY23 3FL
Os hoffech fynd i glinig brechlyn beichiogrwydd a bwydo ar y fron pwrpasol gallwch hunangyfeirio trwy lenwi’r ffurflen ar-lein ganlynol: https://forms.office.com/Pages/ResponsePage.aspx?id=uChWuyjjgkCoVkM8ntyPrhRcpjSFfEpMvfa3YjA3QbpUQjUzOEtTQlVCTUVYSkxFSFMyVzExNTFJVi4u neu ffonio 0300 303 8322. Peidiwch â mynychu heb apwyntiad.

Dywedodd Alison Evans, Nyrs Arweiniol Glinigol ar gyfer Canolfannau Brechu Torfol Hywel Dda: “Rydym yn deall bod llawer o wybodaeth ar gael am y brechlyn a all fod yn ddryslyd wrth benderfynu ai ei gael yw’r penderfyniad iawn i chi.

“Wrth i ni ddechrau gwahodd ein carfannau iau fel mater o drefn i dderbyn brechlyn, roeddem am ddarparu cefnogaeth ychwanegol i unrhyw un sy’n feichiog trwy ddarparu clinigau pwrpasol gyda bydwraig ar gael i siarad a trafod.

“Wrth gwrs, gall unrhyw un sy’n feichiog drafod y wybodaeth sydd ar gael gyda’u meddyg teulu, obstetregydd neu fydwraig ar unrhyw adeg a byddant yn gallu derbyn y brechlyn yn unrhyw un o’n canolfannau brechu torfol, ond rydym yn falch o allu cynnig y clinigau pwrpasol hyn i unrhyw un sy’n teimlo y byddent yn elwa o gefnogaeth a chyngor ychwanegol.

Mae Coleg Brenhinol yr Obstetregwyr a Gynaecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd wedi cynhyrchu taflen wybodaeth a chymorth wrth benderfynu (yn agor mewn tab newydd) ynghyd â gwybodaeth arall (yn agor mewn tab newydd) a allai fod yn ddefnyddiol i chi neu siaradwch â’ch bydwraig neu ymgynghorydd am y risgiau a buddion i helpu i lywio eich penderfyniad.

——————————————————————-

Hywel Dda University Health Board will run dedicated pregnancy and breastfeeding COVID-19 vaccination clinics at four mass vaccination centres every Tuesday morning.

While all mass vaccination centres across Carmarthenshire, Ceredigion and Pembrokeshire will be able to vaccinate anyone who is pregnant or breastfeeding, the antenatal clinics will be delivered by midwife vaccinator should anyone wish to receive additional counselling and advice about receiving the vaccine.

The dedicated pregnancy and breastfeeding clinics will run every Tuesday morning between 9am and 1pm at the following mass vaccination centres:

Halliwell Conference Centre, University of Wales Trinity Saint David, Carmarthen, SA31 3EP
Ffwrnes Theatre, Park Street, Llanelli, SA15 3YE
Pembrokeshire Archives, Prendergast, Haverfordwest, SA61 2PE
Thomas Parry Library, Llanbadarn Campus, Aberystwyth University, Aberystwyth, SY23 3FL
Should you wish to attend a dedicated pregnancy and breastfeeding vaccine clinic you can self-refer by completing the following online form https://forms.office.com/Pages/ResponsePage.aspx?id=uChWuyjjgkCoVkM8ntyPrhRcpjSFfEpMvfa3YjA3QbpUQjUzOEtTQlVCTUVYSkxFSFMyVzExNTFJVi4u or calling 0300 303 8322. Please do not attend without an appointment.

Alison Evans, Clinical Lead Nurse for Hywel Dda Mass Vaccination Centres, said: “We understand there is a lot of information available about the vaccine and it can be overwhelming when deciding if having it is the right decision for you.

“As we start to routinely invite our younger cohorts to receive a vaccine, we wanted to provide additional support for anyone who is pregnant by providing dedicated clinics with a midwife vaccinator available to talk to.

“Of course, anyone who is pregnant can always discuss the available vaccine information with their GP, obstetrician or midwife at any time and will be able to receive the vaccine at any one of our mass vaccination centres, but we are pleased to be able to offer these dedicated clinics for anyone who feels they would benefit from additional support and advice.”

The Royal College of Obstetricians and Gynaecologists and Royal College of Midwives have produced an information sheet and decision aid (opens in new tab) plus other information (opens in new tab) you may find helpful or please talk to your midwife or consultant about the risks and benefits to help inform your decision.

%d bloggers like this: