05/08/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyfle i ddweud eich dweud am uchelgeisiau Cyngor Dinbych

MAE trigolion Sir Ddinbych yn cael eu gwahodd i ddweud eu dweud am yr hyn y mae’r Cyngor Sir yn bwriadu canolbwyntio arno dros y pum mlynedd nesaf.

Mae tai, yr hinsawdd a’r amgylchedd, yr economi, pobl ifanc, cymunedau cysylltiedig, mynd i’r afael ag amddifadedd a pharhau i ddarparu Cyngor sy’n cael ei redeg yn dda ac sy’n uchel ei berfformiad i gyd yn themâu a fydd yn cael eu cynnwys yng Nghynllun Corfforaethol y Cyngor ar gyfer 2022-2027.

Rhwng mis Mai a mis Gorffennaf eleni cynhaliodd y Cyngor ymarfer ymgysylltu o’r enw Parhau Sgwrs y Sir lle gofynnwyd i bobl ddweud beth oedden nhw’n ei feddwl am y rhaglen waith arfaethedig ar gyfer 2022 – 2027.

O’r gweithgaredd ymgysylltu cychwynnol hwn, mae’r Cyngor wedi creu’r themâu drafft ar gyfer cynllun corfforaethol newydd.

Mae’r Cynllun Corfforaethol yn nodi’r meysydd y bydd y Cyngor yn canolbwyntio arnynt dros y pum mlynedd nesaf yn cynnwys y gwasanaethau craidd hanfodol y mae’n eu darparu ar gyfer preswylwyr, fel addysg a gofal cymdeithasol.

Mae’r Cyngor yn lansio arolwg ar-lein er mwyn cael gwybod beth mae aelodau’r cyhoedd yn ei feddwl a fydd ar agor hyd 11 Mawrth. Mae copïau papur ar gael yn holl lyfrgelloedd Sir Ddinbych hefvyd.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Dywedodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol y Cyngor:

“Mae hwn yn gyfle i bobl ddweud wrthym beth maen nhw’n ei feddwl am ein cyfeiriad ar gyfer y pum mlynedd nesaf.

“Bydd safbwyntiau ein preswylwyr yn rhoi gwybodaeth i ni a fydd yn ein helpu ni wrth i ni wneud penderfyniadau ac mae’n gyfle iddynt ddweud wrthym beth y maen nhw’n teimlo y dylem fod yn canolbwyntio arno.

“Rydw i’n annog cynifer â phosibl i gymryd y cyfle hwn i helpu i wella gwasanaethau a’u hardal leol.”

 

 

%d bloggers like this: