GAN fod disgwyl i fwy o bobl ymweld â threfi Ceredigion dros yr wythnosau nesaf a misoedd yr haf, mae Cyngor Ceredigion wedi cyflwyno newidiadau i sicrhau bod y strydoedd yn ddiogel i bawb drwy ganiatáu i bobl gynnal pellter cymdeithasol o 2 fetr ar bob adeg.
Mae cyflwyno newidiadau dros gyfnod y Pasg wedi golygu y bydd rhai diwygiadau’n cael eu gwneud dros yr wythnosau nesaf.
Yn dilyn adolygiad, bydd cam cychwynnol y Parth Diogel (Cam 2) ar gyfer Aberteifi yn cael ei ddiwygio i Gam 2a, gyda Stryd Morgan a’r Strand yn parhau i fod yn system unffordd (y trefniant presennol heb ei newid).
Bydd cau ffyrdd sy’n effeithio ar y Stryd Fawr yn Aberteifi yn dechrau cyn penwythnos Gŵyl y Banc ddiwedd mis Mai. Bydd y ffyrdd ar gau rhwng 12pm a 4pm bob dydd.
Yn rhan o Gam 2a, mae’r gwaith canlynol yn cael ei wneud:
Gosod marciau ffordd ar gyfer pob man parcio i’r anabl ar hyd y Stryd Fawr a Phendre;
Gosod marciau ffordd ar gyfer mannau llwytho gyferbyn â siop gigydd Dewi James;
Cyflwyno bolardiau adlewyrchol newydd i gymryd lle y rhwystrau coch/gwyn. Bydd hyn yn caniatáu masnachwyr i weithredu ar y ffordd yn unol â’u trwydded. Bydd y llwybrau troed llydan a fydd yn rhan o’r ardaloedd masnachu ar y ffordd yn cael eu codi i’r un lefel â’r llwybrau troed cyfagos i greu ardal gwastad a hygyrch ar gyfer cerddwyr;
Gosod rhwystr igam-ogamu y tu allan i Westy’r Llew Du i arafu llif y traffig;
Gweithredu system un ffordd ar hyd Rhes y Coleg i alluogi mynediad at Lôn Siawnsri;
Gwrthdroi’r system un ffordd ar hyd Stryd y Santes Fair; a hefyd
Cau Pwllhai ar gyfer masnachu trwyddedig ac er diogelwch cerddwyr
Mae map o Aberteifi a’r holl wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r Parthau Diogel ar gael ar wefan Cyngor Sir Ceredigion: www.ceredigion.gov.uk/parthaudiogel
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m