04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cynghorau yn galw am gymorth brys i Tata

MAE awdurdodau lleol de Cymru yn cefnogi’r galw am gymorth brys i Tata Steel i sicrhau ei fod yn gallu gwrthsefyll y pwysau a achosir gan y pandemig coronafeirws Covid-19.

O’r 4,000 o bobl a gyflogir gan Tata Steel, mae llawer ohonynt yn byw ar draws rhanbarth De Cymru gyfan, nid yn ardal Castell-nedd Port Talbot yn unig. Mae ymchwil diweddar yn amcangyfrif bod yna dros 6,000 o swyddi cyfwerth ag amser llawn yn cael eu cynnal yng nghadwyn gyflenwi Tata, llawer ohonynt yn fusnesau bach a chanolig eu maint. Pwysleisiodd Arweinwyr yr awdurdodau lleol, pe bai’r broses o wneud dur yn cael ei pheryglu, y byddai’r effeithiau i’w teimlo gan genedlaethau’r dyfodol am ddegawdau i ddod drwy ran helaeth o dde Cymru.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Rob Jones: “Mae dur yn parhau i fod yn hanfodol bwysig i’r economïau lleol a rhanbarthol. Mae Arweinwyr awdurdodau lleol mewn cysylltiad agos â Gweinidogion Cymru ynghylch yr hyn y gellir ei wneud i gynorthwyo ar lefel genedlaethol yng Nghymru ac yn lleol; ond mae’n amlwg mai Llywodraeth y DU sydd â’r cyfrifoldeb pennaf dros osgoi argyfwng. Ni ddylai’r gweithlu ffyddlon dalu’r pris am

%d bloggers like this: