03/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor Caerffili i gyhoeddi datganiad bwlch cyflog rhwng y rhywiau

MAE Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i gyhoeddi ei ddatganiad bwlch cyflog rhwng y rhywiau ysgrifenedig ar gyfer 2020.

Bydd yr wybodaeth yn cael ei chyhoeddi, a bydd ar gael i aelodau o’r cyhoedd, y Wasg a phartïon eraill trwy wefannau’r Cyngor a Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Mae data a datganiad ysgrifenedig bwlch cyflog rhwng y rhywiau y Cyngor yn seiliedig ar gipolwg lefel uchel o’r gwahaniaeth o ran tâl cyfartalog rhwng dynion a menywod yn y gweithlu. Yn unol â Rheoliadau Dyletswyddau Penodol ac Awdurdodau Cyhoeddus, mae’r data yn cynnwys holl weithwyr y Cyngor a gafodd eu talu ar 31 Mawrth 2020.

Bydd datganiad bwlch cyflog rhwng y rhywiau y Cyngor ar gyfer 2020 yn cael ei gyhoeddi ar ei wefan www.caerffili.gov.uk ac ar wefan Llywodraeth y Deyrnas Unedig www.gov.uk/report-gender-pay-gap-data erbyn 30 Mawrth.

Dywedodd y Cynghorydd Colin Gordon, Aelod Cabinet y Cyngor dros Wasanaethau Corfforaethol:

“Mae’r Cyngor yn agored ac yn dryloyw o ran ei ddull o ymdrin â chyflog, fel mae cyhoeddi’r wybodaeth hon yn dangos. Mae nodi bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn rhoi sbardun i ni i ymchwilio ymhellach i’r rhesymau pam mae y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn bodoli. Rydyn ni’n hyderus nad yw ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn deillio o dalu gweithwyr gwrywaidd a benywaidd yn wahanol ar gyfer yr un gwaith neu waith cyfatebol. Fodd bynnag, mae’n adlewyrchiad o achosion y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar lefel gymdeithasol. Mae’r rhan fwyaf o swyddi yn chwartel isaf y data yn swyddi rhan-amser, a dyma’r swyddi sy’n parhau i ddenu ymgeiswyr benywaidd yn bennaf.

“Rydyn ni’n cefnogi ein gweithwyr i weithio rhan-amser ym mhob swydd ar draws gwasanaethau’r Cyngor trwy amrywiaeth o bolisïau sy’n ystyrlon o deuluoedd, sy’n cynnig cyfle i ddynion a menywod ddod o hyd i gydbwysedd rhwng gwaith, hamdden, teulu a chyfrifoldebau gofalu.

“Mae’r Cyngor yn erbyn gwahaniaethau o unrhyw fath.”

 

%d bloggers like this: