04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor Castell-nedd Port Talbot gofyn am gynigion gyfer Cronfa Adfer Cymunedau DU

MAE Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn darparu cyllid ychwanegol o £22m drwy gyfrwng Cronfa Adnewyddu Cymunedau’r DU i helpu ardaloedd lleol baratoi ar gyfer lansio Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn 2022.

Nod y gronfa hon yw cefnogi pobl a chymunedau mwyaf anghenus ledled y DU i dreialu rhaglennu a dulliau newydd, a bydd yn buddsoddi mewn sgiliau, cymuned a lle, busnesau lleol a chefnogi pobl i fynd i mewn i gyflogaeth.

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot bellach yn chwilio am geisiadau oddi wrth sefydliadau sy’n dymuno darparu gweithgaredd fel rhan o Gronfa Adnewyddu Cymuned y DU. Rhaid i brosiectau ddarparu gweithgaredd sy’n unol â Phrosbectws y Gronfa Adnewyddu Cymuned a dylai gyd-fynd ag o leiaf un o’r blaenoriaethau buddsoddi canlynol:

Buddsoddi mewn sgiliau, gyfer busnesau lleol, cymunedau  a hefyd cefnogi pobl i fynd i mewn i gyflogaeth

Mae Llywodraeth y DU yn rhagweld y bydd yn cefnogi ystod o brosiectau yn ôl thema a maint, ond anogir ymgeiswyr i wneud yn fawr o argraff a’r gallu i ddarparu drwy gyfrwng prosiectau mwy o faint (£500,000+) ble bo hynny’n bosib.

Am fod 90% o’r cyllid sydd ar gael drwy gyfrwng Cronfa Adnewyddu Cymuned y DU yn gyllid refeniw, a dim ond ar gael yn ystod 2021/22, dylai prosiectau fod yn seiliedig yn bennaf, neu’n llwyr, ar refeniw. Ni fydd prosiectau sy’n canolbwyntio’n bennaf ar adeiladu neu adnewyddu adeiladau ar raddfa fawr, prynu tir neu brynu darnau mawr o offer, yn cael eu cefnogi.

Gofynnir i ymgeiswyr ddarllen Brosbectws Cronfa Adnewyddu Cymuned y DU a Nodyn Technegol Cronfa Adnewyddu Cymuned y DU ar gyfer Ymgeiswyr a Chyflenwyr Prosiectau cyn dechrau gweithio ar gais. Gellir dod o hyd i’r rhain ar wefan Llywodraeth y DU.

Mae’r prosbectws yn darparu gwybodaeth fanwl ar amcanion y Gronfa, y mathau o brosiectau y mae’n bwriadu’u cefnogi, a sut mae’n gweithredu, gan gynnwys y broses a’r meini prawf dethol a ddefnyddir i asesu ceisiadau.

Bydd ceisiadau llwyddiannus i Gronfa Adnewyddu Cymuned y DU ar gyfer 2021/22 yn unig, a rhaid i bob gweithgaredd ddod i ben ym mis Mawrth 2022.
Dyddiad cau

Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio Ffurflen Gais Cronfa Adnewyddu Cymuned y DU, a’i dychwelyd atom dros e-bost ar CRFNPT@NPT.GOV.UK . Ni fydd ceisiadau a gyflwynir mewn unrhyw ddull arall yn cael eu derbyn.

Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn hanner dydd ar 14 Mai 2021.

Mae Cronfa Adnewyddu Cymuned y DU yn broses gystadleuol ac ni fydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot na Llywodraeth y DU yn mynd i drafodaeth gydag ymgeiswyr.

Yn ei rôl fel prif awdurdod yng Nghastell-nedd Port Talbot, bydd y cyngor yn asesu pob cais a gyflwynir. Asesir ceisiadau yn erbyn:

Y meini prawf porth a amlinellir ym Mhrosbectws Cronfa Adnewyddu Cymuned y DU – ni fydd ceisiadau sy’n methu â chwrdd â’r meini prawf hyn yn gymwys i dderbyn cefnogaeth, a chânt eu gwrthod;

I ba raddau y maen nhw’n cwrdd ag amcanion Cronfa Adnewyddu Cymuned y DU; a hefyd

I ba raddau y byddai ceisiadau’n cefnogi darparu twf a blaenoriaethau cefnogi cyflogaeth yn lleol.

Wedi iddynt gael eu hasesu, bydd y cyngor yn cyflwyno’r ceisiadau cymwys hynny sy’n cwrdd yn fwyaf agos â blaenoriaethau Cronfa Adnewyddu Cymuned y DU a blaenoriaethau lleol gerbron Llywodraeth y DU i gael eu hystyried, hyd at uchafswm o £3m i bob lle.

Bydd Llywodraeth y DU yn asesu pob cais a gyflwynir gan brif awdurdodau yn erbyn y meini prawf a amlinellir ym Mhrosbectws Cronfa Adnewyddu Cymuned y DU.

Bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi canlyniad y broses asesu o ddiwedd mis Gorffennaf 2021 ymlaen.

Bydd y cyngor yn dod i gytundeb ariannu gydag ymgeiswyr llwyddiannus.

%d bloggers like this: