04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gohirio ras 10 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows

MAE Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, y Cynghorydd Philippa Marsden, wedi galw am y ras 10 cilomedr Caerffili Bryn Meadows i’w ohirio er mwyn diogelwch y cyhoedd.

Dywedodd yr Arweinydd:

“Rydym wedi bod yn monitro llacio’r cyfyngiadau coronafeirws dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Er bod y cyfyngiadau hyn wedi dechrau llacio yn ystod yr wythnosau diwethaf,  mae dydd Sul 16 Mai 2021 wedi cyrraedd yn rhy fuan i ganiatáu i rasys 10 cilomedr/2 gilomedr Caerffili Bryn Meadows i fynd yn eu blaen.

Er mwyn diogelwch y cyhoedd, penderfynwyd gohirio rasys 10 cilomedr/2 gilomedr Caerffili Bryn Meadows tan ddydd Sul 12 Medi 2021.

Rydyn ni’n sylweddoli bod llawer ohonoch chi’n edrych ymlaen at ymuno â ni yn yr hyn sydd bob amser yn achlysur gwych i’r Fwrdeistref Sirol, ond er iechyd y cyhoedd, ac iechyd ein gwylwyr, gwirfoddolwyr, staff y digwyddiad a’r boblogaeth ehangach, credwn ni fod y penderfyniad hwn yn angenrheidiol a bydd yn caniatáu i’r digwyddiad gyrraedd ei lawn botensial pan fydd yn ddiogel gwneud hynny.”

Bydd pawb sydd wedi cofrestru yn cael eu trosglwyddo i’r dyddiad newydd yn awtomatig. Nid oes angen cysylltu â ni i ddiwygio unrhyw fanylion. Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth os ydych chi wedi cofrestru yn barod.

Bydd gwybodaeth ychwanegol mewn perthynas â phryd i ddisgwyl pecynnau rasio, gwybodaeth am gau ffyrdd a manylion gweithredu eraill yn cael eu rhannu yn agosach at y digwyddiad.

Am ragor o fanylion, ewch i adran Cwestiynau Cyffredin ein gwefan: https://your.caerphilly.gov.uk/10k/cy/faqs

%d bloggers like this: