MAE Cyngor Bwrdeistref Caerffili yn parhau i gymryd camau cadarnhaol wrth gyflawni ei ymrwymiad i helpu mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ac allyriadau carbon is.
Yn ddiweddar, gosodwyd mannau gwefru cerbydau trydan cyhoeddus mewn 11 maes parcio sy’n eiddo i’r Cyngor yn y Fwrdeistref Sirol fel rhan o brosiect ledled Gwent sydd wedi gosod chwe deg dau o unedau gwefru cerbydau trydan cyflym 22kw newydd mewn tri deg pedwar o safleoedd ar draws Gwent.
Cyflawnwyd y prosiect mewn partneriaeth rhwng pum awdurdod lleol Gwent. Darparwyd grant o £465,000 ar gyfer y prosiect gan Swyddfa Cerbydau Allyriadau Isel (OLEV) Llywodraeth y DU, gyda chyllid cyfatebol yn cael ei ddarparu gan bob awdurdod lleol.
Mae Cyngor Caerffili hefyd wedi cael cerbydau trydan newydd sbon fel rhan o drawsnewid yr awdurdod i gerbydau allyriadau isel iawn.
Y Tîm Arlwyo yw’r gwasanaeth cyntaf i gael cerbydau trydan. Mae gan y faniau ffyrnau trydan er mwyn dosbarthu prydau bwyd i’r henoed a’r rhai sy’n agored i niwed fel rhan o wasanaeth Meals Direct. Mae 6 fan arall ar gyfer y Gwasanaeth Glanhau Adeiladau i fod i gyrraedd yn ddiweddarach y mis hwn.
Gwnaethpwyd y symud i gerbydau trydan yn bosibl yn dilyn penderfyniad y Cabinet i gefnogi gosod mannau gwefru cerbydau trydan yn Nhir-y-berth, Tŷ Tredomen a Thŷ Penallta gan ganiatáu gwefru hyd at 100 o gerbydau.
Yn ogystal, mae cynlluniau ar y gweill i osod y seilwaith sydd ei angen yn y Fwrdeistref Sirol i gefnogi cyflwyno tacsis trydan. Mae hyn yn cynnwys
prynu 44 o gerbydau tacsi trydan 100% hygyrch ar gyfer cadeiriau olwyn i weithredu cynllun ‘rhoi cynnig arni cyn prynu’ dros y 3 blynedd nesaf. Bydd y cynllun hwn yn cwmpasu’r rhanbarth cyfan, gyda Chyngor Caerffili yn cael 5 tacsi.
Meddai’r Cynghorydd Sean Morgan, Dirprwy Arweinydd y Cyngor:
“Yn ôl yn 2019, daethon ni yr ail o holl awdurdodau lleol Gwent i ddatgan argyfwng hinsawdd ac ymrwymo i ddod yn garbon niwtral erbyn 2030.
Mae’n wych gweld ein cerbydau trydan cyntaf yn cael eu dosbarthu. Mae hwn yn gam arwyddocaol iawn i ni ar ôl gosod y mannau gwefru. Rydyn ni’n arwain trwy esiampl ac rydyn ni wedi ymrwymo i barhau i wneud Bwrdeistref Sirol Caerffili yn lle glanach a gwyrddach ar gyfer pawb.”
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m