04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor y Fro yn ymateb i argyfwng costau byw

MAE Cyngor Bro Morgannwg wedi cyhoeddi cyfres o fesurau i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw.

Yng nghyfarfod cyntaf y Cabinet ers yr etholiad fis diwethaf, cymeradwyodd arweinwyr gwleidyddol newydd yr Awdurdod dri adroddiad a fydd yn cynnig cymorth ariannol i’r rhai sydd ei angen fwyaf.

Y Cynghorydd Lis Burnett yw Arweinydd newydd y Cyngor ac mae wedi gwneud helpu trigolion mwyaf agored i niwed y Fro yn brif flaenoriaeth i’w gweinyddiaeth.

Cytunwyd heddiw ar gynigion yn ymwneud â’r Cynllun Cymorth Disgresiynol Costau Byw, Polisi Rhyddhad yn ôl Disgresiwn y Dreth Gyngor a’r Cyflog Byw Gwirioneddol.

“Mae’r cynnydd ym mhrisiau cyfleustodau, tanwydd a bwyd yn ddiweddar wedi effeithio arnon ni i gyd, ond mae rhai wedi cael eu taro’n galetach nag eraill, meddai’r Cynghorydd Burnett.

“Mae cefnogi aelodau mwyaf agored i niwed ein cymdeithas yn uchelgais allweddol i mi ac i Gabinet newydd y Cyngor.

“I’r rhai ar incwm isel neu mewn amgylchiadau ariannol anodd, mae’r cynnydd yng nghostau byw yn arwain at ganlyniadau dinistriol.

“Rwy’n gobeithio y gall y mesurau rydym wedi’u cyhoeddi heddiw wneud rhywfaint i leddfu’r baich ar y rhai sydd o dan y pwysau mwyaf.”

Darperir cymorth drwy’r Cynllun Cymorth Disgresiynol Costau Byw, un o ddwy system a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Cymru.

Yn ogystal â thalu £150 i bob preswylydd mewn eiddo Band A i D, bydd £825,000 arall yn targedu’r rhai na

fyddent efallai wedi elwa o’r taliad hwnnw neu sydd angen cymorth pellach.

Mae grwpiau o’r fath yn cynnwys:

Myfyrwyr ac eraill sy’n byw mewn tai amlfeddiannaeth;

Y rhai sy’n cael eithriadau penodol i’r Dreth Gyngor, megis y rhai sy’n gadael gofal, unigolion â nam meddyliol difrifol neu anabledd a darparwyr goal;

Eraill mewn llety dros dro a’r rhai sy’n derbyn cymorth tai, gofal cartref, prydau ysgol am ddim neu daliadau bloc i fanciau bwyd.

Bydd cynllun Rhyddhad yn ôl Disgresiwn y Dreth Gyngor hefyd yn parhau, sy’n golygu y gall preswylwyr yn yr amgylchiadau mwyaf eithriadol heb fod unrhyw fai arnyn nhw yn cael cynnig cymorth ariannol i helpu gyda’u biliau.

Ac mae’r Cyngor hefyd wedi cytuno i gynyddu cyflog ei staff ar y cyflogau isaf er mwyn sicrhau bod hynny’n cyd-fynd â chyfradd y Cyflog Byw Gwirioneddol.

Bydd y rhai ar ddwy radd gyntaf graddfa’r Cyngor yn gweld eu henillion yn cynyddu i £9.90 yr awr o £9.60 a £9.79 yn y drefn honno.

Mae hyn yn berthnasol i’r rhai a gyflogir yn uniongyrchol gan y Cyngor sy’n gweithio mewn gwasanaethau rheng flaen pwysig.

%d bloggers like this: