04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor Torfaen gwneud gofalwyr ifanc yn fwy gweladwy

MAE bron i 190 o ofalwyr ifanc yn Nhorfaen wedi cofrestru i gael cerdyn adnabod cenedlaethol, sy’n caniatáu iddyn nhw fod yn fwy gweladwy yn eu cymunedau.

Lansiwyd y cynllun cerdyn adnabod cenedlaethol gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn 2021 ac mae’n caniatáu i ofalwyr ifanc ddangos i weithwyr proffesiynol mai dyna ydyn nhw, heb orfod rhannu manylion personol am eu rôl ofalu.

Er enghraifft, mae’r cerdyn yn ei gwneud yn haws i ofalwyr ifanc nôl presgripsiwn a dweud wrth eu hathrawon am eu cyfrifoldebau gofalu.

Mae Brandon Furley, 15 oed, o Gwmbrân, yn gofalu am ei fam sy’n dioddef cyflwr niwrolegol heb ddiagnosis, ac mae’n un o 189 o ofalwyr ifanc gyda’r cerdyn yn Nhorfaen.

Gan fod ei fam yn cael nifer o drawiadau bob dydd, mae hyn yn golygu bod Brandon yn ymgymryd â llawer o dasgau o gwmpas y tŷ.

Mewn diwrnod nodweddiadol, mae’n helpu i baratoi bocsys cinio, cadw’r dillad a helpu ei fam, sydd mewn cadair olwyn, i symud o gwmpas y tŷ.

Meddai Brandon:

“Nawr bod gen i gerdyn adnabod gofalwr ifanc, rwy’n teimlo fy mod yn cael fy nghydnabod ac mae’n rhoi teimlad positif i mi nad ydw i ar fy mhen fy hun.

“Mae bod yn rhan o ofalwyr ifanc Torfaen wedi caniatáu i mi ymgymryd â gweithgareddau na fyddwn fel arfer yn gallu eu gwneud. Rwy’n mwynhau mynd i’r clwb ieuenctid a sesiynau preswyl, lle rydw i wedi dysgu adeiladu go-cart”.

Fel gwobr i ofalwyr ifanc, mae’r cerdyn adnabod newydd hefyd yn rhoi hawl iddyn nhw ddefnyddio campfeydd, pyllau nofio a dosbarthiadau ffitrwydd Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen, a mynediad am ddim i Fferm Gymunedol Dôl Werdd.

Dywedodd Aelod Gweithredol Torfaen ar gyfer Plant, Teuluoedd a Chymunedau, y Cynghorydd Fiona Cross:

“Mae’n wych clywed bod yr holl ofalwyr ifanc rydym yn gwybod amdanyn nhw wedi cofrestru i gael cerdyn adnabod, yn enwedig gan mai dim ond y llynedd y lansiwyd y cynllun.

“Rwyf nawr yn gobeithio y bydd gofalwyr ifanc eraill, nad ydynt efallai yn gwybod am y cynllun, neu’r cymorth y gallwn ei gynnig iddyn nhw, yn cysylltu â ni. Rydym eisiau iddyn nhw fod yn fwy gweladwy a chael y gydnabyddiaeth maent yn ei haeddu.”

I nodi Wythnos Gofalwyr 2022, cymerodd gofalwyr ifanc yn y fwrdeistref ran mewn taith awr o gwmpas Llyn Cychod Cwmbrân, gan chwifio eu baneri i gael eu gweld a’u cydnabod am yr hyn maent yn ei wneud.

I fod yn gymwys i wneud cais am gerdyn adnabod cenedlaethol Gofalwyr Ifanc, rhaid i unigolion fod yn helpu i ofalu am aelod o’r teulu sy’n sâl, yn anabl, sydd â phroblemau iechyd meddwl neu sydd wedi ei effeithio gan gamddefnyddio sylweddau.

%d bloggers like this: