03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cynllun ar gyfer uned iechyd meddwl newydd yn Ysbyty Glan Clwyd symud gam yn nes

MAE  cynlluniau amlinellol i adeiladu uned iechyd meddwl newydd yn Ysbyty Glan Clwyd er mwyn gwella ansawdd gofal i oedolion a phobl hŷn wedi cael eu cymeradwyo gan y Gweinidog Iechyd.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn bwriadu defnyddio’r uned newydd yn lle Uned Ablett yn Ysbyty Glan Clwyd a’r cyfleuster iechyd meddwl pobl hŷn, i gleifion mewnol, ym Mryn Hesketh.

Mae’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wedi cymeradwyo achos busnes amlinellol y bwrdd iechyd i ddatblygu’r cynlluniau. Bydd y bwrdd iechyd yn cyflwyno achos busnes llawn yn awr a fydd yn destun gwaith craffu pellach, ac, os bydd yn cael ei gymeradwyo, gallai’r prosiect ddechrau yn 2024.

Mae’r cynlluniau’n cynnwys ward iechyd meddwl pobl hŷn â 14 gwely a chyfleusterau en-suite, mannau hamdden a threfniadau arsylwi gwell, yn ogystal ag uned asesu gofal dementia â 13 gwely ac ystafell wely diwedd oes. Bydd hyn yn cynnwys darpariaeth fel y gall teuluoedd a gofalwyr aros gyda’u hanwyliaid dros nos, iard ddiogel, cyfleusterau en-suite i bob ystafell wely, mannau hamdden a therapi, a sicrhau bod modd gweld y cleifion yn haws.

Bydd yna hefyd ddwy ward oedolion bwrpasol ag 16 gwely ac ardal ymdawelu ar bob un, a fydd yn darparu amgylchedd nyrsio diogel i gleifion sydd angen gofal dwys.

Mae ardal asesu ar gyfer symud cleifion addas o’r adran achosion brys yn amserol wedi’i chynnwys, ynghyd â mwy o ofod yn yr awyr agored a mannau therapiwtig, a chyfleusterau gwell i staff a theuluoedd.

Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan:

“Mae’n hanfodol cael cyfleusterau iechyd meddwl addas i’r diben ar draws Cymru a fydd yn darparu gofal o ansawdd uchel i bobl sydd angen cymorth brys mewn argyfwng.

Bydd y cynlluniau newydd hyn yn helpu i wella’r amgylchedd gweithio i staff, lleihau costau cynnal a chadw, a rhoi’r urddas a’r gofod sydd eu hangen ar gleifion a’u teuluoedd ar gyfer gwella.

Mae gwasanaethau iechyd meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn destun gwaith craffu sylweddol ar ôl i Lywodraeth Cymru roi’r bwrdd iechyd o dan fesurau ymyrraeth wedi’u targedu. Rwyf felly’n falch o weld cynlluniau uchelgeisiol o’r fath, y mae eu dirfawr angen, yn symud gam yn nes.”

Meddai y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle:

“Rwy’n cwrdd yn rheolaidd â chynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i drafod eu cynnydd o ran gwella gwasanaethau iechyd meddwl ar draws gogledd Cymru, ac rwy’n falch o weld eu bod yn gwneud cynlluniau i uwchraddio eu gwasanaethau a gwella profiad y claf.

Bydd cyfleusterau newydd fel y rhain yn helpu’r bwrdd iechyd i adeiladu ar y cynnydd y mae wedi’i wneud drwy greu capasiti ar gyfer y dyfodol a galluogi’r staff i ddarparu’r gofal gorau posibl i’w cleifion.”

Ychwanegodd Teresa Owen, y Cyfarwyddwr Gweithredol sy’n gyfrifol am Is-adran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu BIPBC:

“Bydd y newyddion hyn yn cael eu croesawu gan y nifer mawr o gleifion, gofalwyr, staff a sefydliadau partner sydd wedi helpu i lunio’r cynigion uchelgeisiol hyn. Dyma gam sylweddol ymlaen ar ein taith wella, wrth inni weithio tuag at ddarparu uned iechyd meddwl yn Ysbyty Glan Clwyd sy’n addas i’r diben, gan alluogi ein staff gweithgar i ddarparu’r gofal gorau un, y mae ein cleifion yn ei haeddu.

Bydd gwaith yn dechrau o ddifrif yn awr i gwblhau achos busnes llawn a manwl sy’n nodi’r holl gostau. Rydym yn edrych ymlaen at rannu ein cynigion â Llywodraeth Cymru a’r nifer o randdeiliaid eraill sydd â buddiant o’r datblygiad hwn, y mae ei ddirfawr angen.”

%d bloggers like this: