MAE cynlluniau cyffrous i drawsnewid addysg i ddysgwyr yn ne Powys wedi dod gam yn nes wedi i’r Cabinet roi sêl bendith i gyflwyno cynlluniau i Lywodraeth Cymru.
Mae Cyngor Sir Powys yn bwriadu adeiladu ysgol gynradd ddwy ffrwd newydd ar gost o £10.2m yn lle’r adeilad presennol yn Ysgol Gynradd Pontsenni, gyda lle i 150 o ddisgyblion.
Mae’r cyngor wedi llunio Achos Amlinellol Strategol i’r cynlluniau a gafodd eu trafod a’u cymeradwyo gan y Cabinet heddiw (dydd Mawrth, 8 Mawrth).
Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu’r cyngor wireddu ei Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys, sef strategaeth uchelgeisiol dros 10 mlynedd a gafodd ei chymeradwyo yn 2020.
Clywodd y Cabinet y bydd angen £10.2m i adeiladu’r ysgol newydd, gyda 65% o’r arian yn dod o Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru (hen Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif). Y cyngor fyddai’n ariannu’r 35% sy’n weddill.
Bydd yr Achos Amlinellol Strategol nawr yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet dros Addysg:
“Nid yw adeiladau presennol Ysgol Gynradd Pontsenni’n addas i ateb anghenion cwricwlwm yr 21ain Ganrif nac anghenion llesiant disgyblion.
“Fel rhan o Weledigaeth 2025, rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleusterau o’r radd orau. Yn ein barn ni, nid yn unig y bydd y cynlluniau ar gyfer ysgol gynradd newydd Pontsenni’n dangos yr ymrwymiad hwn ond byddwn yn darparu cyfleusterau haeddiannol i’r plant.
“Rwy wrth fy modd bod y Cabinet wedi cymeradwyo’r Achos Amlinellol Strategol. Os bydd Llywodraeth Cymru’n ei gymeradwyo, bydd yn fuddsoddiad sylweddol arall yn ein seilwaith ysgolion.”
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m