03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Dechrau cymryd camau gorfodi yn erbyn parcio ar palmant Heol y Plwca

GALLAI gyrwyr sy’n parcio eu cerbyd ar balmant ar Heol y Plwca wynebu Hysbysiad Tâl Cosb o £70 drwy gyfrwng cynllun peilot 18 mis newydd sy’n dechrau heddiw.

Mae parcio ar balmentydd yn aml yn achosi rhwystr i ddefnyddwyr eraill y ffordd, yn enwedig y rhai sydd â nam ar eu golwg neu’r rhai sy’n gwthio plentyn ifanc mewn pram. Nid yn unig y mae’n achosi niwsans i gerddwyr, gall hefyd niweidio’r palmant ei hun, neu unrhyw seilwaith sylfaenol oddi tano.

Mae parcio ar balmentydd wedi bod yn broblem barhaus yn Heol y Plwca ers peth amser a dim ond oes llinellau melyn dwbl ar y ffordd neu os rhoddir ‘parth dim parcio’ penodol ar waith y gall y Cyngor ei gyfyngu a’i orfodi.

Y tu allan i Lundain a’r Alban, heb orchymyn cyfreithiol penodol, nid yw’n anghyfreithlon parcio ar balmant oni bai bod cerbyd yn achosi rhwystr – dim ond yr heddlu all orfodi trosedd o’r fath.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd, “Mae’r Cyngor wedi ymgynghori â’r cyhoedd ar barcio ar balmentydd. Mewn arolwg diweddar, teimlai 70% o’r rhai a ymatebodd fod parcio ar balmentydd yn broblem yng Nghaerdydd ac y dylid ei wneud yn anghyfreithlon os yn bosibl.

“Dywedodd 72% o bobl a ymatebodd i’r un arolwg hefyd y byddent yn mwynhau cerdded mwy pe bai llai o barcio ar balmentydd y ddinas. O ystyried hyn, tynnwyd sylw at y mater yn y Papur Gwyn Trafnidiaeth, sef gweledigaeth drafnidiaeth Caerdydd ar gyfer y ddinas am y 10 mlynedd nesaf.”

Mae’r ‘parth dim parcio’ ar Heol y Plwca bellach ar waith ac mae wedi’i arddangos yn glir i’r cyhoedd, gydag arwyddion yn dangos lle mae’r ‘parth dim parcio’ yn dechrau ac yn gorffen.

Bydd unrhyw gerbyd sy’n parcio’n rhannol neu’n gyfan gwbl ar y palmant yn Heol y Plwca o fewn y ‘parth dim parcio’ yn agored i Hysbysiad Tâl Cosb o £70.

Swyddogion Gorfodi Sifil y Cyngor fydd yn gorfodi hyn, ynghyd â lluniau teledu cylch cyfyng sy’n cael eu rheoli yn yr ystafell reoli.

Bydd y cynllun peilot yn Heol y Plwca yn cael ei fonitro’n ofalus i weld a yw’r cynllun gorfodi yn gwella’r problemau parhaus. Os bernir ei fod yn llwyddiannus, gellid dod â chynllun tebyg i rannau eraill o’r ddinas sy’n wynebu’r un problemau.

 

%d bloggers like this: