04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Defnyddio Gwesty’r Ambassador Castell-nedd fel llety dros dro i’r digartref

MAE Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cyhoeddi datganiad ar ddefnyddio Gwesty’r Ambassador fel llety dros dro i’r digartref. Dwed y datganiad:

Ar ddechrau’r pandemig ym mis Mawrth 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru arweiniad i bob cyngor yng Nghymru gan ddatgan y byddai unrhyw unigolyn neu gartref nad oedd llety ar gael iddynt yn cael cynnig llety dros dro.

O ganlyniad, gwelodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot gynnydd sylweddol yn y galw am lety dros dro, cynnydd o fwy na dwbl y galwad arferol, a bu’n rhaid dod o hyd i lety ychwanegol ledled y fwrdeistref sirol.

Roedd hyn yn cynnwys Gwesty’r Ambassador yng Nghastell-nedd, oedd eisoes yn cael ei ddefnyddio gan y gwasanaeth Dewisiadau Tai, ond oherwydd y cynnydd mewn galw, mae bellach yn cael ei ddefnyddio hyd eithaf ei faint. Mae’r trefniant dros dro hwn, dan nawdd cyllid Llywodraeth Cymru, a chan weithio gyda nifer o asiantaethau partner y cyngor, yn parhau yn ystod y pandemig iechyd presennol.

Mae staff Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gweithio’n barhaus gyda staff y gwesty, yr heddlu ac asiantaethau cefnogi eraill i sicrhau fod cefnogaeth ar gael i bawb sy’n preswylio yng Ngwesty’r Ambassador, gan gynnwys nifer o bobl fregus.

Ers dechrau’r pandemig, rhoddwyd dros 600 o unigolion a theuluoedd mewn llety dros dro, a fyddai fel arall yn amddifad o le i fyw. O blith y rhain, lleolwyd dros 170 yn yr Ambassador, gan dderbyn cymorth a chefnogaeth, a symudodd nifer ymlaen i fyw mewn llety parhaol.

Er bod achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gysylltiedig â phreswylwyr y gwesty i ddechrau, dros y misoedd diwethaf, newidiodd y sefyllfa hon yn ddirfawr. Nid yw achosion diweddar o ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol y dref wedi cynnwys preswylwyr o gwbl, felly mae’n peri pryder o glywed adroddiadau am bobl yn dioddef cael eu herlid a’u cam-drin er nad nhw yw ffynhonnell y digwyddiadau hyn.

Hoffem ofyn hefyd weld nad yw sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol yn targedu staff Cyngor Castell-nedd Port Talbot na staff y gwesty a gweithwyr cefnogi eraill mewn ffordd dreisgar, am fod gwaith sylweddol yn digwydd ganddynt yn feunyddiol i gwrdd â’r gofynion a nodir.

Mae’r cyngor ar hyn o bryd yn datblygu cynlluniau amgen na mentrau fel defnyddio Gwesty’r Ambassador dros dro i roi cartref i bobl ddigartref, cynlluniau sy’n fwy addas a chynaliadwy.

%d bloggers like this: