04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

‘Dim toriadau newydd a chynnydd yn nhreth Cyngor Caerffili ymhlith lleiaf yng Nghymru’

MAE Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi argymell cynnydd yn Nhreth y Cyngor sydd ymhlith y lleiaf yng Nghymru.

Fe wnaeth y Cabinet gyfarfod heddiw (dydd Mercher 17 Chwefror) i gytuno ar gynigion cyllideb drafft ar gyfer 2021/22, sy’n cynnwys cynnydd o 3.9% yn Nhreth y Cyngor. Byddai hyn yn cyfateb i gynnydd o 89c yr wythnos ar gyfer eiddo Band D.

Bydd y cynigion cyllideb nawr yn cael eu hystyried i’w cymeradwyo’n derfynol mewn cyfarfod y Cyngor Llawn yr wythnos nesaf.

Yn ogystal â’r cynnydd isel yn Nhreth y Cyngor, mae’r Cabinet hefyd wedi cytuno na fydd y gyllideb ddrafft uchelgeisiol yn cynnwys unrhyw doriadau newydd i wasanaethau ar gyfer 2021/22.

Croesawodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Philippa Marsden, y penderfyniad, “Rwy’n falch o’r ffordd y mae’r awdurdod hwn yn parhau i reoli ei gyllideb yn sgil ein rheolaeth ariannol gadarn gyfredol ac ein dull darbodus.

“Rydyn ni’n gweithio’n galed i sicrhau bod y Cyngor yn parhau i fod yn ariannol gadarn yn ystod y cyfnod ansicr hwn, a hoffwn i ddiolch i bawb dan sylw am wneud hyn yn bosibl.

“Rwy’n gwbl gefnogol i gynigion y gyllideb ddrafft, ac rwy’n siŵr y bydd trigolion ledled y Fwrdeistref Sirol yn croesawu’r newyddion na fydd toriadau newydd. Mae’n golygu y gallwn ni barhau i ddiogelu ein gwasanaethau allweddol ar gyfer y dyfodol.”

“Mae’n debygol y bydd y cynnydd yn Nhreth y Cyngor ymhlith y lleiaf yng Nghymru ac, er nad yw’r un ohonom ni eisiau gweld cynnydd, mae’n bwysig deall bod hyn yn chwarae rhan bwysig wrth fantoli’r gyllideb,” meddai’r Cynghorydd Marsden.

Er gwaethaf y darlun cyffredinol cadarnhaol, mae’r Cyngor yn awyddus i bwysleisio nad yw’r setliad gan Lywodraeth Cymru yn ymdrin â goblygiadau’r pandemig coronafeirws cyfredol – o ran y costau ychwanegol na’r incwm a gollir. Bydd hyn yn parhau i gael ei ariannu trwy grantiau a bydd y sefyllfa’n cael ei hadolygu’n ofalus.

%d bloggers like this: