03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Dweud eich dweud ynghylch cynigion cyllideb y Cyngor

MAE pobl yn cael eu hannog i ddweud eu dweud ynghylch ystod o gynigion arbedion sy’n cael eu hystyried gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn rhan o’i broses flynyddol o bennu cyllideb.

Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi cael ei lansio sy’n rhoi cyfle i bobl adolygu’r cynigion a allai helpu’r Cyngor i arbed £16.5 miliwn dros y tair blynedd nesaf.

Mae’r Cyngor yn gwahodd trigolion, busnesau, a sefydliadau cymunedol a gwirfoddol lleol i gwblhau arolwg ar-lein ar y gyllideb neu i alw mewn digwyddiad ymgynghori wyneb yn wyneb, a hynny er mwyn dweud sut y gallai’r cynigion gael effaith ar eu teuluoedd a’u cymunedau.

Yn ogystal, mae’r Cyngor yn gofyn a fyddai pobl yn derbyn cynnydd uwch yn y dreth gyngor er mwyn osgoi rhai o’r cynigion effeithlonrwydd.

Bydd yr adborth yn cael ei ystyried ddechrau mis Chwefror cyn y bydd penderfyniadau terfynol yn cael eu gwneud gan gynghorwyr ym mis Mawrth, pan fydd yn rhaid iddynt bennu cyllideb gytbwys.

Mae nifer o gynigion wedi dod i law at ddibenion ymgynghoriad cyhoeddus.

Yn eu plith y mae cynlluniau i helpu ysgolion i reoli cyllidebau yn fwy effeithiol drwy rannu adnoddau ac uno ysgolion lle y mae niferoedd y disgyblion yn fach; ynghyd â rhoi cymorth i blant ag anghenion dysgu ychwanegol fynychu eu hysgol leol drwy wella sgiliau staff, a thrwy hynny arbed costau ar leoliadau arbenigol.

Gallai’r ganolfan ailgylchu gwastraff y cartref yn Hendy-gwyn ar Daf gael ei chau; gallai’r prisiau godi ym mynwent y Cyngor yn Rhydaman; gallai tri thoiled cyhoeddus gael eu cau lle y mae cyfleusterau eraill gerllaw; a gallai prisiau godi ar gyfer toiledau o safon uwch (Superloos).

Gallai rhai gwasanaethau nad oes rheidrwydd ar y Cyngor i’w darparu gael eu lleihau, gan gynnwys cau rhai cyfleusterau sy’n cael eu tanddefnyddio a lleihau trefniadau cynnal a chadw a glanhau.

Yn ogystal, mae targedau incwm wedi cael eu codi ar gyfer rhai o gyfleusterau’r Cyngor, gan gynnwys Parc Gwledig Pen-bre, Canolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn, Cartref Dylan Thomas, theatrau a chanolfannau hamdden.

Mae tîm safonau masnach y Cyngor yn chwilio am ragor o incwm drwy ddefnyddio ffyrdd mwy cadarn o adennill incwm a gwasanaeth posibl y telir amdano i drin Clymog Japan.

Mae staff y Cyngor wedi cael gwybod bod angen iddynt ddod o hyd i £13 miliwn o arbedion mewnol ar draws yr holl adrannau i arbed arian drwy weithio’n fwy effeithiol, gan gynnwys cynlluniau i leihau teithio, argraffu a chostau ynni; yn ogystal ag edrych ar drefniadau caffael a strwythurau staffio.

Mae ymdrechion parhaus hefyd yn cael eu gwneud i ddarparu ystod o wasanaethau atal i gefnogi pobl agored i niwed yn eu cartrefi ac yn eu cymunedau i wella eu llesiant, yn ogystal â lleihau’r angen am ofal cymdeithasol adweithiol costus.

Dywedodd y Cynghorydd David Jenkins, Aelod y Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau: “Yn yr un modd â chynghorau eraill, rydym yn parhau i wynebu costau a galw cynyddol am ein gwasanaethau nad yw lefel y cynnydd yng nghyllid y llywodraeth yn cyfateb iddynt. Rydym yn gwneud arbedion drwy wella effeithlonrwydd ac edrych yn ofalus ar wella’r modd y gallai gwasanaethau gael eu darparu – mae hyn yn ein galluogi i barhau i wario yn y meysydd lle ceir yr angen mwyaf, gofalu am ein trigolion mwyaf agored i niwed a darparu ystod o wasanaethau rheng flaen.

“Mae gofyn i bobl sut y gallai ein cynigion gael effaith arnynt yn bwysig i ni er mwyn inni allu deall barn y cyhoedd yn llwyr a gwneud penderfyniadau’n seiliedig ar yr adborth hwnnw.

“Mae hwn yn ymgynghoriad pwysig, ac rydym yn annog pawb i dreulio amser yn adolygu’r cynigion a rhannu eu barn â ni.

Mae’r rheiny nad oes ganddynt fynediad i’r rhyngrwyd yn cael eu hannog i fynd i’w llyfrgell neu eu canolfan gwasanaeth cwsmeriaid agosaf i ddefnyddio’r cyfrifiaduron y gall y cyhoedd eu defnyddio am ddim. Fel arall, mae copïau caled o’r arolwg ar gael ar gais.

Yn ogystal, mae cyfres o ddigwyddiadau galw heibio’n cael eu trefnu. Bydd dyddiadau a lleoliadau’n cael eu cyhoeddi ar wefan ac ar ffrydiau cyfryngau cymdeithasol y cyngor.

I gael rhagor o wybodaeth, neu i rannu sylwadau mewn ffordd arall, cysylltwch â’r tîm ymgynghori drwy anfon neges e-bost at ymgynghori@sirgar.gov.uk, neu drwy ffonio 01267 234567.

Cynhelir yr ymgynghoriad hwn tan 28 Ionawr 2020.

Cynhelir digwyddiadau galw heibio rhwng 10am a 2pm fel a ganlyn:

Dydd Gwener, 10 Ionawr – Llandeilo, Adeiladau’r Cyngor
Dydd Mawrth, 14 Ionawr – Sanclêr (lleoliad i’w gadarnhau)
Dydd Mercher, 15 Ionawr – Yr Hwb, Stryd y Cei, Rhydaman
Dydd Iau, 16 Ionawr – Neuadd Cawdor, Castellnewydd Emlyn
Dydd Llun/Dydd Mercher, 20/22 Ionawr (dyddiad i’w gadarnhau) – Llyfrgell Llanymddyfri
Dydd Iau, 23 Ionawr – Yr Hwb, Stryd Stepney, Llanelli
Dydd Llun, 27 Ionawr – Yr Hwb, Heol Spilman, Caerfyrddin

%d bloggers like this: