Mae porth cynnil a fydd yn helpu pobl sy’n dioddef trais yn y cartref i gael cymorth a chyngor arbenigol wedi cael ei ychwanegu at waelod holl dudalennau gwe Dŵr Cymru. |
Yn ôl ystadegau gan heddluoedd Cymru a Lloegr, bu cynnydd o 7% yn nifer yr achosion o gamdriniaeth ddomestig yr haf diwethaf, gyda Heddlu Dyfed Powys yn derbyn 900 adroddiad am drais yn y cartref ym mis Awst o gymharu â 350 digwyddiad y mis yn 2017.
Mae Dŵr Cymru, sef yr unig gwmni dŵr nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr, yn cefnogi’r fenter ‘Mannau Diogel Ar Lein’ mewn ymdrech i gynorthwyo dioddefwyr. Mae’r cwmni wedi ychwanegu botwm cynnil ar waelod holl dudalennau ei wefan. Mae’r botwm yn cyfeirio’r defnyddwyr at gymorth arbenigol am gamdriniaeth ddomestig. Gall dioddefwyr gyrchu cyfeiriadur o wasanaethau a llinellau cymorth arbenigol, llenwi holiadur i asesu pa mor ddiogel yw eu perthynas, a chyrchu gwybodaeth am drais rhywiol, stelcian ac aflonyddu. Gellir defnyddio’r dechnoleg, a ddatblygwyd gan y Post Brenhinol, yn hyderus gan wybod na fydd y dudalen yn ymddangos yn yr hanes pori ar y rhyngrwyd, ac mae modd gadael y dudalen ar unwaith os oes angen i ddioddefwyr gau’r dudalen yn gyflym.
Mae’r porth Mannau Diogel Ar Lein ar gael trwy dwrcymru.com |
Local & National News for Wales
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m