03/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Dwy gronfa newydd ar gael i gefnogi prosiectau sy’n buddsoddi yng Ngheredigion

MAE Cronfa Codi’r Gwastad a Chronfa Adfywio Cymunedol ar gael yng Ngheredigion. Nod y cronfeydd yw helpu gyda phrosiectau sy’n canolbwyntio ar fuddsoddi ym musnesau, cymunedau a seilwaith Ceredigion a datblygu sgiliau trigolion Ceredigion.

Darperir y cronfeydd gan Lywodraeth y DU a byddant yn cael eu gweinyddu gan Gyngor Sir Ceredigion.

Bydd Cronfa Codi’r Gwastad yn buddsoddi mewn seilwaith sy’n gwella bywyd bob dydd ar draws y DU, gan gynnwys adfywio canol trefi a strydoedd, uwchraddio trafnidiaeth leol, a buddsoddi mewn asedau diwylliannol a threftadaeth.

Mae gan Gyngor Sir Ceredigion weledigaeth o ddatblygu pecyn o gynigion cadarn ac aeddfed sy’n cyd-fynd yn gadarn gyda Strategaeth Economaidd Ceredigion 2020 – 2035 a gyhoeddwyd yn ddiweddar a meini prawf cyllid Cronfa Codi’r Gwastad ar gyfer adfywio canol trefi a ysgogir gan fuddsoddiad mewn asedau diwylliannol a threftadaeth. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau ar gyfer Cronfa Codi’r Gwastad yw 10 Mai 2021.

Nod y Gronfa Adfywio Cymunedol a ddarperir gan Lywodraeth y DU yw helpu ardaloedd i dreialu ffyrdd o weithio a allai lywio ceisiadau yn y dyfodol i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn 2022.

Mae’r gronfa’n gobeithio cefnogi pobl a chymunedau ar draws y DU i dreialu rhaglenni a dulliau gweithredu newydd, a bydd yn buddsoddi mewn sgiliau, cymuned a lle, busnesau lleol, ac yn cynorthwyo pobl i sicrhau cyflogaeth.

Yng Ngheredigion, caiff y cymorth ei flaenoriaethu ar gyfer y syniadau hynny sy’n cynnig y potensial mwyaf i gyflawni yn erbyn blaenoriaethau lleol allweddol, fel y’u nodir yn Strategaeth Economaidd Ceredigion 2020-2035, a’r rheini sy’n helpu economi Ceredigion i adfer yn dilyn pandemig Covid-19.

Mae’r blaenoriaethau hyn yn cynnwys:

1. Pobl – ysbrydoli pobl, meithrin sgiliau, iechyd a lles.

2. Lle – hyrwyddo Ceredigion fel lle i fyw, gweithio ac ymweld ag ef.

3. Menter – cynorthwyo busnesau i gychwyn a thyfu.

4. Cysylltedd – cysylltu busnesau a chymunedau.

Mae’r cronfeydd yn rhan o becyn i helpu ardaloedd lleol i baratoi ar gyfer lansiad Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn 2022. Dylai prosiectau fod yn seiliedig ar refeniw yn bennaf, ond mae swm bach o arian cyfalaf ar gael.Y dyd diad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau ar gyfer y Gronfa Adfywio Cymunedol yw 17 Mai 2021.

Gall busnesau a sefydliadau yng Ngheredigion gael gwybod mwy am y cronfeydd hyn a sut i wneud cais drwy fewngofnodi i edendrocymru https://etenderwales.bravosolution.co.uk/cym/login.shtml Mae angen cofrestru ar y wefan. Ar ôl cofrestru, bydd angen nodi’r cod cyfeirio ar gyfer y gronfa benodol a geisir. Ar gyfer Cronfa Codi’r Gwastad, nodwch: ITT pqq_33100 – Ceredigion Level Up Funding – Applications. Ar gyfer y Gronfa Adfywio Cymunedol, nodwch ref PQQ: pqq_33102 – Community Renewal Fund Applications.

 

%d bloggers like this: