04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Estyn yn canmol Gwasanaethau Addysg Caerdydd

MAE safon yr addysg y mae plant a phobl ifanc yn ei chael yn ysgolion Caerdydd yn parhau i wella o flwyddyn i flwyddyn ac – mewn sawl achos – ymhlith y gorau a gynigir yng Nghymru, yn ôl gwybodaeth a gyhoeddwyd yn adroddiad diweddaraf Estyn (Arolygiaeth Addysg Cymru).

Mae’r adroddiad, a gyhoeddwyd gan Estyn heddiwhttps://www.estyn.llyw.cymru/system/files/2022-02/Adroddiad%20arolygiad%20-%20Cyngor%20Caerdydd%202022_0.pdf, yn tynnu sylw at y gwelliannau sylweddol a nodwyd gan dimau arolygu, ac yn canmol gwaith Cyngor Caerdydd a’i arweinyddiaeth wleidyddol am sbarduno newid ac ymdrin ag effeithiau’r pan demig ar y system addysg.

Dywedodd Estyn:

Mae uwch arweinwyr yn rhannu gweledigaeth feiddgar ac uchelgeisiol ar gyfer pob dysgwr, y maent yn ei chyfleu yn glir;

Mae’r cymorth a gynigir i bobl ifanc a’u teuluoedd yn amlwg iawn;

Mae arweinydd y cyngor, aelod cabinet a phrif weithredwr yn gosod disgwyliadau uchel ar gyfer swyddogion, ysgolion a darparwyr eraill;

Mae gan arweinwyr ysgolion a lleoliadau barch mawr at y cymorth a gânt gan y Cyngor;

Mae dyfarniadau rhagorol ar gyfer safonau mewn ysgolion uwchradd yn uwch na’r rhai yn genedlaethol;

Yn gyffredinol, mae deilliannau ar gyfer disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim wedi bod yn uwch na’r un grŵp yn genedlaethol.

Mae cyfran y disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim yn cyflawni graddau 5A/A* yn arbennig o uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol;

Mae’r Cyngor wedi gwneud cynnydd da o ran sicrhau bod yr ysgolion priodol, o’r math priodol ac yn y lleoedd priodol ar waith i ddiwallu anghenion eu dysgwyr;

Mae gwasanaeth ieuenctid Caerdydd yn cynnig darpariaeth o safon uchel mewn ardaloedd â blaenoriaeth yn y ddinas; ac

Roedd uwch swyddogion addysg ac iechyd a diogelwch yn trefnu eu gwaith yn effeithiol drwy gydol y pandemig.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Mae Estyn wedi gofyn i’r cyngor baratoi tair astudiaeth achos ar y gwaith arloesol y mae wedi’i wneud yn gweithio gyda busnesau i wella cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc (Addewid Caerdydd); ar ei gefnogaeth i blant ceiswyr lloches; a sut mae wedi mynd ati i drawsnewid gwaith ieuenctid. Caiff yr astudiaethau achos eu defnyddio fel enghreifftiau o arfer da ar wefan Estyn.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry:

“Mae addysg yng Nghaerdydd wedi datblygu llawer dros y 10 mlynedd diwethaf. Pan gydiodd y weinyddiaeth hon yn yr awenau yn 2012 roedd gwasanaethau addysg yn y ddinas yn wan iawn ac mewn perygl o fod yn destun mesurau arbennig. Roeddem yn benderfynol o flaenoriaethu addysg a dyfodol ein pobl ifanc ac mae’n wych gweld bod y gwaith caled, y penderfyniad a’r arweinyddiaeth i wneud yn well yn cynhyrchu’r canlyniadau y mae ein plant a’n pobl ifanc yn eu haeddu. Mae addysg yng Nghaerdydd wedi gwella flwyddyn ar ôl blwyddyn o dan y weinyddiaeth hon.  Rwyf wrth fy modd bod Estyn wedi cydnabod yr ymdrechion aruthrol a wnaed yn gyffredinol i sicrhau bod cynnydd a gwelliannau wedi parhau, yn enwedig dros ddwy flynedd ddiwethaf y pandemig.

“Mewn perthynas â’n hymrwymiad o £284m i adeiladu ysgolion newydd ac ysgolion gwell dros y pum mlynedd nesaf yn ogystal â’n cyllideb sylweddol a ddirprwyir i ysgolion, mae’r adroddiad hwn yn newyddion da i Gaerdydd, yn newyddion da i rieni ac yn newyddion gwych i’n plant a’n pobl ifanc. Wrth gwrs, bydd mwy i’w wneud bob amser a ffyrdd y gallwn wella.  Rydym wedi nodi pwyntiau Estyn o ran sut y gallem gynyddu’r nifer sy’n manteisio ar addysg cyfrwng Cymraeg ymhellach ac rydym eisoes yn gweithio ar gynlluniau i hwyluso twf yn y maes hwn.

“Roedd yn arbennig o braf gweld Estyn yn nodi’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud i ddatblygu partneriaethau gyda busnesau a sefydliadau allanol eraill drwy Addewid Caerdydd, sydd wedi’i gynllunio i helpu pobl ifanc i gael gwaith, ac roedd hefyd yn wych gweld y gwaith a wnawn gyda phlant ceiswyr lloches a’r gwaith gwych y mae ein gwasanaethau ieuenctid yn ei wneud, i gyd yn cael eu cydnabod yn llawn. Rydym yn gwybod bod addysg yn bwysig i bawb ac rydym yn benderfynol bod plant, pobl ifanc a theuluoedd Caerdydd yn cael y cymorth a’r cyfleoedd gorau sydd ar gael iddynt.”

Meddai y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd:

“Mae addysg wastad wedi bod yn flaenoriaeth i’r weinyddiaeth hon. Rydym yn gwybod y bydd gwella safonau ar draws y ddinas yn gwella bywydau ein dinasyddion. Mae gwarantu gwell addysg i bawb yn helpu i warantu dyfodol gwell i bawb. Bydd yn gwneud mwy i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau a sicrhau bod ein plant yn cael y dechrau gorau a’r cyfleoedd gorau mewn bywyd. Rwy’n falch iawn bod Estyn wedi cydnabod y cynnydd rydym yn parhau i’w wneud, ac yn arbennig yr arweinyddiaeth gref a’r weledigaeth rydym wedi’u gosod. Hoffwn ddiolch i bawb sy’n ymwneud â’r sector addysg am y gwaith gwych y maent yn ei wneud i wthio safonau yng Nghaerdydd yn uwch byth.”

Edrychodd Estyn ar dri phrif faes a dadansoddwyd adborth gan arweinwyr ysgolion, swyddogion y Cyngor, athrawon, disgyblion a’u teuluoedd;

Deilliannau i ddysgwyr;

Nododd arolygwyr bod ysgolion Caerdydd wedi cael canlyniadau cryf yn dilyn arolygiadau Estyn rhwng 2017 a 2020 ac yng Nghyfnod Allweddol 4, mae’r canlyniadau’n uwch na’r disgwyliadau yn y rhan fwyaf o ysgolion. Mae deilliannau ar gyfer disgyblion sy’n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim yn uwch ar y cyfan na’r un grŵp yn genedlaethol ac mae lefelau presenoldeb yn dda.

Nodwyd hefyd bod ystod dda o weithgareddau wedi’u darparu i gefnogi lles pobl ifanc yn ystod y pandemig, gan gynnwys darpariaeth y Gwasanaeth Ieuenctid a’r rhaglen o ddigwyddiadau ledled y ddinas a gyflwynwyd fel rhan o Wên o Haf.

Gwasanaethau Addysg;

Mae Estynyn cydnabod y berthynas gref sydd gan yr Awdurdod Lleol â’i ysgolion. Mae ffocws ar ymddiriedaeth a lles ac mae arweinwyr ysgolion yn parchu’r Cyngor yn fawr iawn.

Nodir y prosesau cadarn sydd ar waith i gefnogi ysgolion sy’n destun pryder, a’r cynnydd da sy’n cael ei wneud i gyflawni’r addewid i ddarparu amgylcheddau dysgu o ansawdd uchel.

Menter gan y Cyngor yw Addewid Caerdydd sy’n dwyn ynghyd y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion, diwydiant a darparwyr addysg, i godi ymwybyddiaeth am ehangder y cyfleoedd gyrfa sydd ar gael ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, o ran helpu i ddatblygu sgiliau plant a phobl ifanc gyda golwg ar saernïo twf y dyfodol ar gyfer swyddi’r dyfodol. Amlygwyd ei waith o ran sefydlu rhwydweithiau dinesig i gefnogi ymgysylltiad a chynnydd pobl ifanc, a chanfu arolygwyr fod addysg a chefnogaeth effeithiol i grwpiau agored i niwed a lleiafrifol, ac i bobl ifanc o ardaloedd difreintiedig yn y ddinas.

Arweinyddiaeth a Rheoli;

Mae’r adroddiad yn nodi bod uchelgeisiau corfforaethol yn llywio gwaith y tîm addysg a bod ymrwymiad cryf i hunanarfarnu a bod diogelu yn flaenoriaeth uchel.

Lansiwyd Caerdydd 2030 yn 2019 ac mae wedi’i adeiladu ar y cynnydd a’r cyflawniadau a sicrhawyd ar draws system addysg y ddinas dros y pum mlynedd flaenorol.

Roedd yn cwmpasu dwy brif thema:  Cyfrifoldeb a rennir dros addysg a dysgu yn y ddinas. Cyfranogiad ystyrlon gan blant a phobl ifanc. Mae’n bwriadu parhau â’r gwelliannau a wnaed yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda chwmpas ehangach a mwy o uchelgais ar gyfer dysgu yng Nghaerdydd ar gyfer y dyfodol.  Amlinellodd ffocws clir ar ymgorffori hawliau plant a rhoi lles plant a phobl ifanc wrth wraidd addysg yn y ddinas.

Cynhaliodd Estyn arolygiad llawn o Wasanaethau Addysg Caerdydd ddiwethaf yn 2011.

Bydd y Cyngor yn ceisio adeiladu ar gynnydd a bydd yn mynd i’r afael â’r argymhellion a nodwyd yn ystod y broses arolygu gyda’r nod o wneud gwelliannau i wasanaethau cwnsela i blant a phobl ifanc, safon hunanarfarnu ar draws y gyfarwyddiaeth, sicrhau bod gwaith y consortiwm rhanbarthol yn canolbwyntio’n briodol ar flaenoriaethau strategol Caerdydd a sicrhau arweinyddiaeth strategol a throsolwg clir o ddatblygiad addysg cyfrwng Cymraeg.

Ffeithiau Caerdydd:

Dros gyfartaledd o dair blynedd, mae 24.5% o ddisgyblion 5 i 15 oed yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd ychydig yn uwch na chyfartaledd Cymru, sef 20.4%. Yn unol â bron pob awdurdod arall yng Nghymru, mae canran y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim wedi cynyddu dros y tair blynedd diwethaf.

Mae 11.8% o ddisgyblion 5 oed neu hŷn yn rhugl yn y Gymraeg, sy’n sylweddol is na chyfartaledd Cymru, sef 16.2%

Mae 35.1% o ddisgyblion 5 oed neu hŷn o leiafrifoedd ethnig, sy’n sylweddol uwch na chyfartaledd Cymru, sef 12.2%

Mae gan 16.6% o ddisgyblion anghenion addysgol arbennig, sydd ychydig yn is na chyfartaledd Cymru, sef 19.5%

Roedd 132 o blant ym mhob 10,000 yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol ar 31 Mawrth 2021, sy’n is na chyfartaledd Cymru, sef 115 o blant ym mhob 10,000.

%d bloggers like this: