04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gallai diddyfnu ŵyn yn 12 wythnos helpu ffermwyr defaid Cymru i wella cyflwr mamogiaid yn y cyfnod cyn hyrdda eleni

Bu mamogiaid o dan bwysau yn ystod y gwanwyn oer a sych estynedig a gallai hyn gael sgil-effeithiau ar ŵyn y flwyddyn nesaf.

Ar fferm Glanmynys, safle arddangos Cyswllt Ffermio ger Llanymddyfri, bydd cyflwr mamogiaid yn cael ei asesu pan fydd ŵyn yn cael eu pwyso yn wyth wythnos.

Nid yw’r rhan fwyaf o ffermwyr yn diddyfnu tan 14-16 wythnos ond mae ymchwil a chyngor i’r diwydiant yn awgrymu mai’r oed gorau i ddiddyfnu yw tua 12 wythnos. Ond, os yw mamogiaid yn denau, mae o fantais diddyfnu’n gynnar, yn ôl y cyngor a roddwyd i ffermwyr a gymerodd ran mewn gweminar byw a ddarlledwyd o safle arddangos Glanmynys.

Dywedodd Dr Liz Genever, arbenigwraig defaid a bîff, fod ŵyn erbyn wyth wythnos oed yn dechrau cael y rhan fwyaf o’u hegni o laswellt. Bryd hynny, mae ansawdd y borfa a rheoli parasitiaid yn dod yn bwysig.

Er bod manteision cymdeithasol i’r oen o gael sugno’r famog, gall diddyfnu yn 10-12 wythnos fod o fantais i famogiaid ac ŵyn gan ei fod yn lleihau’r gystadleuaeth am laswellt a gellir rhoi’r borfa orau i’r ŵyn.

“Mae rhai ffermwyr yn diddyfnu’n gynnar eleni i roi mwy o amser i famogiaid wella cyflwr eu cyrff oherwydd eu bod wedi cael amser caled yn ystod y cyfnod llaetha cynnar,” meddai Dr Genever.

Mae angen i famog sy’n llaetha gael deunydd sych dyddiol (DM) sy’n gyfystyr â 3.5% o’i chorff ond ar ôl diddyfnu mae hynny’n gostwng i 1.5%.

Dylai sgôr cyflwr y corff (BCS) mamogiaid mewn bridiau iseldir fod yn 2.5 ar ddiwedd y cyfnod llaetha – os bydd yn is, bydd yn lleihau nifer yr ŵyn sy’n cael eu cario neu’r ganran sganio fesul mamog, eglurodd Dr Genever; mae’n cymryd chwe wythnos i godi BCS o un pwynt.

Gall triniaeth yn erbyn parasitiaid neu leihau porthiant y famog yn sylweddol am ychydig ddyddiau helpu i leihau nifer yr achosion o fastitis wrth ddiddyfnu, meddai Dr Genever.

Ar fferm Glanmynys, mae Carine Kidd, perchennog y fferm a Peredur Owen, ei phartner cyfran yn cadw diadell o 1,000 o famogiaid.

Mae eu hŵyn o’r mamogiaid hŷn yn 2021 wedi perfformio’n well na’r pwysau targed wyth wythnos o 20kg, sef 22kg ar gyfartaledd.

Eu targed o ran pwysau 90 diwrnod yw 30kg sy’n golygu y bydd angen iddynt dyfu bron i 300g y dydd i gyflawni hynny, cyfrifodd Dr Genever.

“Mae’n fwy o her cyrraedd targedau 90 diwrnod oherwydd cystadleuaeth gan famogiaid, parasitiaid ac ansawdd y borfa,” ychwanegodd.

Mae ansawdd y borfa’n her eleni gan fod yr amodau tyfu eithriadol yn achosi i laswellt fynd i had yn gyflym.

Argymhellodd Dr Genever y dylid rhoi’r glaswellt deiliog o’r ansawdd uchaf i’r ŵyn – bydd gan hyn werth ME o 11.5MJ o’i gymharu â 10.5MJ ar gyfer porfa goesiog gan ostwng i 8MJ ar gyfer porfa hŷn; ar ôl yr ŵyn dylid rhoi blaenoriaeth o ran y borfa i’r mamogiaid tenau, ychwanegodd.

Bydd grwpio ŵyn yn ôl eu pwysau yn gwneud y gwaith rheoli’n haws.

Mae statws elfennau hybrin y ddiadell yn fferm Glanmynys hefyd yn cael ei fonitro fel rhan o waith prosiect Cyswllt Ffermio ar y fferm.

Dywedodd y milfeddyg Joe Angell o Filfeddygon Wern, sy’n arwain y gwaith prosiect hwn, nad yw pob prawf elfen hybrin yr un fath felly mae’n bwysig bod ffermwyr yn penderfynu pa wybodaeth y maent am ei chael ac yna’n defnyddio’r prawf gorau at y diben hwnnw.

Rhybuddiodd Dr Angell y gall profion ar hap fod yn gamarweiniol iawn.

“Holwch eich milfeddyg neu’ch cynghorydd ynglŷn â’r profion gorau i’w defnyddio a phryd i’w cynnal gan y gall amseru fod yn hanfodol i ddehongli’r canlyniadau’n effeithiol,” meddai.

Mae profion gwaed yn ddefnyddiol ar gyfer sefydlu statws yr elfennau hybrin tymor byr a thymor canolig tra gall samplu meinweoedd yr iau fod o fudd i roi gwybodaeth am statws tymor hir elfennau fel copr, seleniwm, cobalt a manganîs, ychwanegodd Dr Angell.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

 

%d bloggers like this: