MAE grŵp gorchwyl a gorffen newydd a sefydlwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin i wella amrywiaeth a mynd i’r afael â hiliaeth wedi dechrau ar ei ddarn cyntaf o waith, yn gofyn am farn pobl am Gofeb Picton yng Nghaerfyrddin.
Sefydlwyd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen trawsbleidiol ynghylch Cydraddoldeb ac Amrywiaeth (Pobl dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig) gan Fwrdd Gweithredol y cyngor i ymgysylltu â thrigolion a chasglu adborth a fydd yn helpu i chwalu rhwystrau a chefnogi cymunedau BAME Sir Gaerfyrddin.
Mewn ymateb i’r sylwadau diweddar am henebion hanesyddol ledled y DU, mae’r grŵp wedi addo gofyn am farn pobl am henebion a chofebion, yn enwedig y gofeb i Syr Thomas Picton yn nhref Caerfyrddin.
Mae arolwg cyhoeddus wedi cael ei lansio yn gofyn i bobl a ydynt yn credu bod angen i’r cyngor gymryd unrhyw gamau mewn ymateb i drafodaeth gyhoeddus, a beth ddylai’r camau hyn fod.
Yr arolwg yw cam cyntaf yr ymgynghoriad, a chaiff adborth cyhoeddus ei ystyried ochr yn ochr ag adborth gan bartneriaid allanol a chyrff cyhoeddus eraill.
Dywedodd y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gydraddoldeb a chadeirydd y grŵp gorchwyl a gorffen:
“O ystyried y digwyddiadau diweddar ledled y DU mewn perthynas â’r ymgyrch Mae Bywydau Du o Bwys, mae llawer o drafodaeth wedi bod ynghylch cofeb Picton ac enwau lleoedd sy’n gysylltiedig â Picton yn Sir Gaerfyrddin. Nod y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yw gofyn am farn pobl am yr hyn y dylai’r cyngor ei wneud gyda’r gofeb, os unrhyw beth o gwbl, a defnyddio’r adborth i lunio ein hargymhellion i’r Cyngor Llawn.
“Rwy’n gwybod bod y mater hwn yn sensitif iawn ac mae eisoes wedi achosi llawer o ddadlau o bob ochr ac rwy’n deall hynny’n llwyr, ond mae’n rhaid i mi bwysleisio mai dim ond un mater yw hwn sy’n cael ei drafod gan y grŵp trawsbleidiol wrth i ni geisio gwaredu pob math o hiliaeth a gwahaniaethu yn ein cymdeithas.”
Mae’r arolwg ar gael ar wefan y Cyngor www.sirgar.llyw.cymru, hyd at 16 Medi, 2020.
Yn ogystal â gofyn am farn pobl, bydd yn ceisio canfod a oes gwahaniaeth barn gan bobl o wahanol oedran, grwpiau ethnig a lleoliadau.
Mae gan y grŵp gorchwyl a gorffen nifer o amcanion.
Yn ogystal â mynd i’r afael â’r gofeb, mae’n ceisio ymgysylltu â chymunedau BAME Sir Gaerfyrddin ac ystyried sut y gall y cyngor wella amrywiaeth yn ei weithlu, gweithio gyda Heddlu Dyfed-Powys i fynd i’r afael â gwahaniaethu a hiliaeth, ac edrych ar y cwricwlwm cenedlaethol i sicrhau ei fod yn cynnwys themâu allweddol perthnasol.
Bydd canfyddiadau’r grŵp yn cael eu defnyddio i lywio polisïau’r cyngor yn y dyfodol, a bydd yr argymhellion cyntaf yn cael eu cyflwyno i’r Bwrdd Gweithredol erbyn mis Chwefror 2021.
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m