MAE’r gwaith ar fin dechrau ar drawsnewid y Ganolfan Ddysgu Gymunedol yn y Gurnos i ganolfan hyfforddiant a llety arloesol ar gyfer trigolion ifanc y fwrdeistref sirol.
Y dyddiad dechrau arfaethedig yw Chwefror 7, gyda lansiad y cyfleusterau newydd ddiwedd Awst 2022.
Bydd yr adeilad, sydd wedi cael ei ddefnyddio fel canolfan addysgol i helpu pobl ifanc ac oedolion di-waith i chwilio am waith ers 25 mlynedd, yn parhau i gynnig hyfforddiant yn ogystal â phump fflat hunangynhaliol mewn tri bloc.
Y bwriad yw ymateb i’r galw am gartrefi fforddiadwy yng Nghymru, wrth gefnogi ein pobl ifanc sydd angen llety er mwyn byw yn annibynnol wrth chwilio am hyfforddiant a gwaith.
Mae’r Cyngor wedi derbyn cyllid cyfalaf o £1,126,174 ar gyfer y project gan Gronfa Raglen Gyllid Dewisol Gofal Integredig Cwm Taf Morgannwg, sydd wedi nodi gweithio gyda phobl ifanc a phlant mewn gofal fel blaenoriaeth. Fe fydd yr Awdurdod Lleol hefyd yn clustnodi £221,000 o arian cyfatebol.
“Mae’r Ganolfan Ddysgu Gymunedol yn dechrau dangos ei oed a bydd hwn yn drawsnewidiad arloesol a deniadol,” meddai’r Aelod Cabinet dros Adfywio, Tai a Diogelwch Cyhoeddus y Cyng. Geraint Thomas.
“Fe fydd y tri bloc ac uned fasnachol yn cael eu troi yn llety addas modern a diogel i gwrdd yr angen am dai. Fe fydd gan y tenantiaid fynediad at hyfforddiant ar y safle a all arwain at addysg bellach yn y coleg lleol a chyfle am waith yn y dyfodol.”
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m