03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gwasanaeth Gofal Maeth Pen-y-bont chwilio am bobl gyfer ‘Rôl gymhleth, ond gwerth chweil’

MAE tîm gofal maeth Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi lansio gwasanaeth gofal maeth mewnol newydd, arbenigol gyda’r nod o weithio gyda phlant a phobl ifanc sy’n ei chael hi’n anodd byw mewn amgylchedd teuluol oherwydd eu profiad o drawma.

Mae’r Cynllun Gofalwyr Pontio yn cynnwys lleoliadau tymor byr, hyd at 24 wythnos ar gyfartaledd, yn ystod yr amser hwnnw bydd y gofalwr yn meithrin perthynas un i un gyda’r person ifanc, gan ddangos ymrwymiad, amynedd ac ymroddiad i’w helpu i oresgyn rhwystrau a allai wedi arwain at chwalu lleoliadau yn y gorffennol.

Gallai hyn gynnwys helpu pobl ifanc i ddeall eu hunain, a sut y gall eu teimladau effeithio ar eu hymddygiad. Mae dod o hyd i ffyrdd o gynyddu ymdeimlad o berthyn a galluogi’r person ifanc i ddysgu sut i fyw mewn amgylchedd teuluol yn allweddol i drosglwyddo’n llwyddiannus.

Byddai Gofalwyr Pontio yn gweithio o fewn pecyn dwys o gefnogaeth i alluogi’r plentyn i reoli ei emosiynau, a throsglwyddo i leoliad tymor hir sefydlog. Gallai hynny olygu symud i leoliad maethu hirdymor, dychwelyd at deulu biolegol neu amgylchedd byw’n annibynnol.

Mae’r tîm eisiau recriwtio pobl sy’n deall yr effaith lawn mae trawma yn ei gael ar blentyn, neu ofalwyr sy’n barod i gwblhau hyfforddiant er mwyn iddynt allu deall hynny.

Byddai’r rôl yn addas i’r rheiny sydd â phrofiad ym meysydd gofal plant, gofal cymdeithasol, addysgu, gwaith ieuenctid neu ofal maeth. Bydd y gofalwyr hyn yn helpu i oresgyn rhwystrau a symud person ifanc ymlaen at leoliad hirdymor.

Daeth Debra Hill a’i gŵr, Geraint, yn ofalwyr pontio ym mis Ionawr 2019.

Eglurodd Debra:

“Mae gen i brofiad ym meysydd rheoli ymddygiad ac addysg, ac mae Gareth wedi gweithio gyda phobl ifanc ers blynyddoedd, felly roedd yn swnio fel rôl addas i ni.

“Rydym hefyd yn mwynhau her, a byddwn yn bendant yn dweud fod y rôl yn heriol, nid yw’n hawdd.”

Fodd bynnag, wynebodd Debra a Geraint yr her, a chawsant leoliad llwyddiannus iawn gydag un person ifanc, gyda Debra yn ei disgrifio fel rhywun ‘sydd wedi dwyn fy nghalon’, felly nawr, maent yn ofalwyr maeth llawn amser.

“Yn bendant, mae’n rhaid i chi fod yn wydn a deall nad yw unrhyw beth mae’r plentyn yn ei wneud wedi’i anelu atoch chi,” aeth Debra ymlaen i ddweud. “Mae fel arfer yn ymateb sy’n seiliedig ar drawma, felly mae angen i bobl ddeall hyn er mwyn gwneud y gwaith yn effeithlon.

“Bydd materion cymhleth yn codi, ac mae hyn yn lefel ychwanegol o her.”

Bydd gofyn i ofalwyr weithio gyda gweithwyr proffesiynol rhyngddisgyblaethol, a chael mentoriaeth ac arweiniad gan aelwyd gofalu brofiadol a gwybodus.

Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus fod yn wydn, a gallu cynnal lleoliad hyd yn oed o dan amgylchiadau anffafriol neu eithriadol, ac mewn sefyllfaoedd o argyfwng, gyda chymorth gan dîm. Bydd angen i chi fod yn frwdfrydig a mwynhau hwyluso a galluogi plentyn i wella ar ôl profi trawma, i lefel lle maent yn gallu pontio at leoliad teulu hirdymor.

Bydd disgwyl i ofalwyr pontio greu cysylltiadau gwerthfawr a chadarn gyda phlentyn neu berson ifanc, a meddu ar y sgiliau a’r wybodaeth i gefnogi a gweithredu ‘strategaethau rheoli ymddygiad wedi’u llywio gan drawma.’

Oherwydd natur y rôl, bydd y tîm maethu yn sicrhau bod pob gofalwr pontio yn cael hyfforddiant helaeth cyn iddynt gefnogi person ifanc. Mae gofalwyr pontio hefyd yn rhan o dîm gofal maeth penodedig, ac maent yn gweithio ochr yn ochr â dadansoddwyr ymddygiad, staff hybiau gofal plant, y timau lleoliadau maethu a gweithwyr allgymorth llesiant.

Ychwanegodd Debra:

”Mae gwaith tîm yn bendant yn allweddol, ac mae’r rhwydwaith cymorth gan Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn bwysig. Weithiau gall deimlo nad ydych yn mynd i unman, a dyna pam mae angen i chi fod yn wydn. Rwyf bob amser yn atgoffa fy hun o ba mor bell y mae plentyn wedi dod, hyd yn oed os yw’n gamau bach.

Y rhan fwyaf buddiol o’r rôl yw pan fyddwch yn gweld y plentyn yn gwneud rhywbeth na fydden nhw wedi’i wneud o’r blaen. Gall fod mor syml â mynd â’u cwpan i’r gegin, ond mae hynny’n dangos cynnydd gyda’u sefydlogrwydd.

Rwyf wedi dod o hyd i wahanol lefelau o amynedd, goddefgarwch a’r gallu i beidio â chynhyrfu nad oeddwn yn gwybod yr oeddwn yn meddu arnynt. Mae bod yn ofalwr pontio wedi dysgu llawer i mi am berthnasoedd yn gyffredinol.”

I gael rhagor o wybodaeth am ddod yn Ofalwr Pontio ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, cysylltwch â Rheolwr y Tîm Maethu, Jo Lloyd-Jones: 

%d bloggers like this: