YN eu cyfarfod ddydd Mawrth Chwefror 1, 20200, cytunodd aelodau’r Cabinet i ddod â gwasanaethau hamdden Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ôl dan reolaeth uniongyrchol y cyngor.
Gwnaed penderfyniad i reoli’n allanol yn 2002, gan arwain at benodi’r ymddiriedolaeth nid-er-elw Celtic Leisure i gynnal y gwasanaethau hamdden yn 2003.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cyng. Ted Latham:
“Mae sawl mantais o ddod â’r cyfleusterau hyn yn ôl dan reolaeth uniongyrchol a bydd y penderfyniad hwn yn ein galluogi i barhau i gefnogi llawer mwy o bobl i fyw bywydau iachach.
“Bydd gan y cyngor reolaeth lawn o ganolfannau hamdden a chyfleusterau eraill, gan ein galluogi i benderfynu ar ba lwybr i’w ddilyn o ran oriau agor, darparu gwasanaeth, ffioedd a chostau i sicrhau fod ein cynnig hamdden yn canolbwyntio ar helpu i leihau anghydraddoldeb a gwella iechyd preswylwyr. Bydd manteision i staff presennol hefyd, a fydd yn elwa o’r sicrwydd o drosglwyddo i gael eu cyflogi gan y cyngor.
“Yn ogystal, gellir marchnata a gweithredu gwasanaethau hamdden law yn llaw â chynigion twristiaeth a hamdden eraill i sicrhau fod dull gweithredu cysylltiol ar waith, gan gyfrannu at ein nod o sefydlu Castell-nedd Port Talbot fel lle ble mae pobl eisiau ymweld ag ef.”
Yn dilyn penderfyniad y Cabinet, bydd swyddogion y cyngor nawr yn gweithio gyda Celtic Leisure i hwyluso gwasanaeth hamdden dan reolaeth y cyngor ac ymgymryd â’r gwaith ymgynghori angenrheidiol.
Bydd adroddiad yn cael ei ddwyn gerbron aelodau i amlinellu trefniadau arfaethedig angenrheidiol ar gyfer sefydlu gwasanaeth hamdden dan reolaeth y cyngor – bydd yr adroddiad yn cynnwys canlyniad unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus y bydd angen i aelodau wneud penderfyniadau yn ei gylch.
Ychwanegodd y Cyng. Ted Latham:
“Edrychwn ymlaen yn awr at ddod â’n gwasanaethau hamdden yn ôl dan adain y cyngor gyda’r nod o gynyddu cyfranogiad gan ein preswylwyr mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol, ac annog pobl i ddod yn fwy bywiog i wella’u hiechyd a’u llesiant.”
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m