04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

MAE Llyfrgell Porthcawl wedi cael ei hailagor yn swyddogol gan Faer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Ken Watts, yn dilyn adnewyddiad diweddar.

Defnyddiwyd grant gan y Gronfa Gwasanaeth Diwylliannol ar gyfer Llywodraeth Leol (Is-adran Diwylliant a Chwaraeon Llywodraeth Cymru) i ailwampio ac ailaddurno hanner blaen y llyfrgell, cynyddu maint llyfrgell y plant, ac i wella’r ardal sy’n cynnwys cyfrifiaduron cyhoeddus fel ei bod yn cynnig mwy o breifatrwydd a mynediad haws at adnoddau eraill fel argraffwyr.

Mae’r ddesg flaen wedi’i symud er mwyn osgoi achosi oedi wrth fynedfa’r llyfrgell, ac mae ardal eistedd newydd wedi’i gosod ynghyd â lle i grwpiau lleol gwrdd eto unwaith y bydd y cyfyngiadau Covid-19 presennol wedi’u llacio.

Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen:

“Llyfrgell Porthcawl yw un o’n llyfrgelloedd prysuraf ar gyfer benthyca llyfrau traddodiadol, ond roedd ei gynllun blaenorol yn golygu bod mynediad yn gyfyngedig iawn, yn enwedig wrth gadw at y mesurau pellter cymdeithasol angenrheidiol i gadw staff a chwsmeriaid yn ddiogel.

“Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am y cyllid, ac i Faer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am ailagor y llyfrgell yn swyddogol heddiw. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu ein cwsmeriaid yn ôl a gobeithio bod pawb yn mwynhau defnyddio’r man cymunedol hwn unwaith eto.”

Meddau’r Maer Ken Watts:

“Mae Llyfrgell Porthcawl yn parhau i fod wrth galon y gymuned leol. Gyda’r cyfraddau coronafeirws yn parhau i ostwng a chyfyngiadau’r cyfnod clo yn cael eu llacio, rwy’n siŵr y bydd pobl yn falch i weld ei drysau ar agor unwaith eto.

Ers amser maith bellach, mae llyfrgelloedd lleol wedi bod yn ymwneud â llawer mwy na benthyca llyfrau yn unig, ac mae’n wych gweld sut mae’r cynllun newydd a’r cyfleusterau wedi’u hadnewyddu yn mynd i wella’r llu o wasanaethau y mae Llyfrgell Porthcawl yn eu cynnig i bobl Porthcawl.”

Dywedodd y Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol:

“Llyfrgell Porthcawl yw un o’r llyfrgelloedd mwyaf poblogaidd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a hoffwn ddiolch i Awen a Llywodraeth Cymru am alluogi’r gwelliannau hyn i fynd ymlaen.”

Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn elusen gofrestredig sy’n rheoli gwasanaethau llyfrgell ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

%d bloggers like this: