03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gweinidog yn cyhoeddi adolygiad dwy flynedd o weithredu isafbris am alcohol

MAE Lynne Neagle AS, Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cyhoeddi adolygiad o’r ddeddfwriaeth isafbris am alcohol.

Dywedodd Lynne Neagle:

“Ar 2 Mawrth 2020 cyflwynwyd isafbris uned o 50c ar gyfer alcohol a werthwyd yng Nghymru i helpu i fynd i’r afael â niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol drwy leihau faint o alcohol sy’n cael ei yfed gan yfwyr peryglus a niweidiol.

Gwnaethom ymrwymo i gynnal adolygiad o’r ddeddfwriaeth isafbris am alcohol ar ôl dwy flynedd. Mae’r datganiad hwn yn nodi sut y gwneir hyn.

Bydd yn ein helpu i ddeall effaith bresennol y ddeddfwriaeth, gan gynnwys goblygiadau’r pandemig. Bydd hefyd yn ein helpu i ddeall a yw’r strwythur prisio presennol o 50c yr uned yn briodol ac yn cael yr effaith a ddymunir, sef lleihau niwed cysylltiedig ag alcohol.

Gwnaethom gomisiynu gwerthusiad annibynnol o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 a fydd yn cael ei gynnal ar ffurf dadansoddiad o gyfraniadau. Mae’r gwerthusiad wedi’i rannu yn bedair rhan (lot).

Lot 1: Dadansoddiad o gyfraniadau

Mae’r dadansoddiad o gyfraniadau yn ddull gwerthuso sy’n seiliedig ar theori, sy’n briodol i adolygu rhaglenni gwaith cymhleth aml-lefel lle nad yw priodoleddau achosol uniongyrchol yn bosibl[1]. Mae’r dull hwn yn briodol ar gyfer gwerthuso effaith isafbris gan nad isafbris uned fydd yr unig ffactor a allai effeithio ar lefelau yfed alcohol a niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol.

Bydd angen i’r dull o werthuso ystyried hyn ac asesu cyfraniad y polisi i unrhyw newidiadau a welwyd yn y canlyniadau.

Bydd y dadansoddiad o gyfraniadau yn edrych ar gyd-destun ehangach polisi alcohol ac yn dod â’r setiau data perthnasol ynghyd â chanfyddiadau’r astudiaethau unigol yng Nghymru a’r gwaith gwerthuso a wnaed yn yr Alban er mwyn llywio’r asesiad o’r cyfraniad y mae cyflwyno isafbris wedi’i wneud at yr amcanion polisi.

Ni ellir cynhyrchu’r adroddiad o’r elfen hon ar y gwerthusiad ond pan fydd yr adroddiadau ar y tair astudiaeth arall wedi’u cynhyrchu, gan fod hyn yn dod â’r holl elfennau ynghyd yn yr  asesiad cyffredinol.

Lot 2: Ymchwil i’r effaith ar fanwerthwyr

Bydd yr elfen hon yn asesu profiad ac effaith gweithredu’r Ddeddf ar fanwerthwyr.

Cyhoeddwyd adroddiad sylfaenol o’r elfen hon o’r gwerthusiad ar 30 Tachwedd 2021. Mae’n cyflwyno’r set gyntaf o ganfyddiadau o ymchwil ansoddol hydredol gyda manwerthwyr alcohol Cymru a gynhaliwyd cyn i’r Isafbris am Alcohol (MPA) gael ei gyflwyno yng Nghymru.

Mae’r ymchwil yn edrych ar ddealltwriaeth a safbwyntiau manwerthwyr o’r polisi ar bennu isafbris am alcohol cyn iddo gael ei gyflwyno a’u disgwyliadau ar gyfer effeithiau’r polisi. Cynhaliwyd cyfweliadau gyda 30 o fanwerthwyr o bob rhan o’r pum rhanbarth yng Nghymru. Roedd y sampl yn cynnwys manwerthwyr annibynnol a chadwyni, manwerthwyr mawr a bach, a chymysgedd o fathau o drwyddedau alcohol (mewnfasnach, allfasnach, a’r ddau). Bydd yr ymchwil sylfaenol hon yn cael ei dilyn gan ddwy don bellach o gyfweliadau gyda manwerthwyr.

Mae’r adroddiad hefyd yn ymgorffori’r cynllun dadansoddi meintiol, gan roi manylion am y dulliau i’w defnyddio ar gyfer gwerthuso effaith yr isafbris am alcohol ar fanwerthwyr, gan ddefnyddio data Kantar i wneud asesiad meintiol o’r effaith.

Lot 3: Gwaith gyda gwasanaethau a defnyddwyr gwasanaethau

Nod yr ymchwil ansoddol hwn yw asesu profiad ac effaith pennu isafbris ar wasanaethau a defnyddwyr gwasanaethau (gan gynnwys archwilio i ba raddau y gallai newid rhwng sylweddau fod wedi deillio o’r ddeddfwriaeth). Comisiynwyd darn cychwynnol o waith yn archwilio hyn i lywio’r gwaith o weithredu’r Ddeddf. Cyhoeddwyd yr adroddiad o’r gwaith sylfaenol hwn ar 24 Hydref 2019.

Bydd data’n cael eu casglu trwy arolwg ar-lein gyda defnyddwyr gwasanaethau a darparwyr gwasanaethau. Cynhelir cyfweliadau gyda’r ddau grŵp hefyd i archwilio’r canfyddiadau yn fanylach.

Lot 4: Asesiad o effaith cyflwyno isafbris am alcohol ar boblogaeth ehangach o yfwyr.

Nod y gydran olaf hon yw ymchwilio i effaith y ddeddfwriaeth ar yr isafbris am alcohol ar y boblogaeth ehangach, gan gynnwys yfwyr cymedrol, peryglus a niweidiol. Cyhoeddwyd adroddiad sylfaenol ar 8 Gorffennaf 2021. Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar ddata a gasglwyd cyn i’r polisi gael ei roi ar waith ym mis Mawrth 2020. Prif nod yr astudiaeth oedd ymchwilio i effaith bosibl y ddeddfwriaeth newydd ar yfwyr yng Nghymru a chasglu gwybodaeth sylfaenol y gellir ei defnyddio i fonitro effaith isafbris am alcohol dros gyfnod pum mlynedd yr astudiaeth.

Casglwyd y data trwy holiaduron arolwg ar-lein a gwblhawyd gan 179 o yfwyr a recriwtiwyd drwy hysbysebion a chyhoeddiadau’r cyfryngau cymdeithasol ar fewnrwyd dwy o Brifysgolion Cymru. Cynhaliwyd cyfweliadau gyda 41 o yfwyr a gafodd eu recriwtio drwy Arolwg Cenedlaethol Cymru, dwy brifysgol, sefydliadau’r trydydd sector a’r arolwg ar-lein.

Cyhoeddwyd adroddiad pellach ar 24 Mawrth 2022, yn cyflwyno canlyniadau o ail don o gyfweliadau ansoddol o’r sampl hydredol. Nod y don ychwanegol hon o gyfweliadau oedd cynnal astudiaeth ansoddol fanwl o effaith y pandemig ar ymddygiad yfed y sampl hydredol i ddarparu cyd-destun ar gyfer dehongli’r data yn y dyfodol.

Mae pob un o bedair rhan y gwerthusiad yn gwneud gwaith maes ar gyfer asesiad interim o weithredu’r ddeddfwriaeth. Bydd canfyddiadau pob un o’r pedwar lot yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr hydref – disgwylir y bydd yr adroddiad interim o’r dadansoddiad o gyfraniadau yn cael ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2023.

Bydd canfyddiadau’r lotiau gwerthuso hyn yn llunio’r adolygiad dwy flynedd. Rwy’n bwriadu cyhoeddi datganiad ysgrifenedig pellach a fydd yn nodi’r canfyddiadau allweddol pan fydd yr adroddiadau gwerthuso olaf wedi’u cyhoeddi.

Cynhelir cylch arall o waith maes ar gyfer pob elfen o’r gwerthusiad yn ystod hydref a gaeaf 2023. Bydd y canfyddiadau hynny’n cyfrannu at yr adroddiadau gwerthuso terfynol, a fydd ar gael yn ystod haf 2024 ac yn llywio’r adroddiad ar weithrediad a’r effaith y ddeddfwriaeth, y mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru ei baratoi o dan adran 21 o Ddeddf 2018. “

%d bloggers like this: