04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gwobrau Lantra Cymru 2021 – Gweinidog yn ddweud fod dyfodol ffermio mewn dwylo diogel.

Oherwydd cyfyngiadau Covid 19 cafodd Gwobrau arobryn Lantra Cymru 2021 eu beirniadu o bell eleni. Darlledwyd neges fer a recordiwyd ymlaen llaw gan Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd, yn ystod y seremoni ei hun, a gynhaliwyd am 6.30pm nos Iau, 24 Chwefror 2022yng Ngwesty’r Metropole, Llandrindod. Mae’r gwobrau bellach wedi’u cynnal ers 27 o flynyddoedd.

Estynodd y Gweinidog ei diolch a’i llongyfarchiadau i’r holl enillwyr a phawb a enwebwyd yn 2021, y cyhoeddwyd eu henwau ar y noson. Hefyd, diolchodd holl ddarparwyr hyfforddiant tir a cholegau gwledig Cymru sydd wedi’u cymeradwyo i gyflenwi cyrsiau hyfforddiant gyda chymhorthdal Cyswllt Ffermio, a oedd wedi gwneud yr enwebiadau.

Mae gwasanaeth Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra Cymru a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Yn dilyn y seremoni wobrwyo, rhoddodd y Gweinidog deyrnged arbennig i enillydd gwobr Cyflawniad Oes Lantra Cymru 2021, sy’n cydnabod unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad ‘eithriadol ac arwyddocaol’ i amaethyddiaeth yng Nghymru. Enillydd y wobr eleni oedd y cymeriad adnabyddus a’r cyflwynydd teledu, Dai Jones MBE, Llanilar, Ceredigion.

“Mae Dai Jones yn wyneb cyfarwydd i bawb sy’n gweithio ac yn byw yng ngymuned ffermio a chefn gwlad Cymru. Fel cyflwynydd teledu ar sianel S4C, mae ei sgyrsiau brwdfrydig a’i lais bariton wedi denu gwylwyr ers blynyddoedd lawer.

“Mae’n fwyaf adnabyddus am gyflwyno’r rhaglen boblogaidd Cefn Gwlad ac am ei ymddangosiadau o Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru.

“Mae Dai yn gyn-Lywydd Cymdeithas y Gwartheg Duon a’r Gymdeithas Cŵn Defaid Ryngwladol ac yn Is-Lywydd CFfI Cymru ac roedd yn hynod o falch o gael ei benodi yn Llywydd Cymdeithas Sioe Frenhinol Cymru yn 2010 pan oedd Ceredigion yn noddi’r sioe.

“Mae Dai wedi bod yn llais ardderchog dros fywyd amaethyddol a gwledig Cymru ac mae’n enillydd teilwng iawn o’r wobr bwysig hon”

Gwnaeth y Gweinidog hefyd longyfarch enillydd Gwobr Goffa Brynle Williams. Mae’r wobr hon, sydd bellach yn cael ei chyflwyno am yr unfed tro ar ddeg yn rhodd gan Mrs Mary Williams, gwraig weddw’r diweddar Mr Brynle Williams, ac mae’n cydnabod llwyddiannau ffermwr ifanc sydd wedi sefydlu busnes ffermio drwy raglen Menter Cyswllt Ffermio. Cyflwynwyd y wobr eleni i Bryn Perry, ffermwr cenhedlaeth gyntaf sy’n byw yn Sir Benfro.

“Roedd gan Bryn gefndir academaidd a phroffesiynol yn y sector busnes, ond ers iddo symud i Gymru gwta ddwy flynedd yn ôl, mae wedi sefydlu ei hun fel ffermwr ifanc a dyn busnes hynod o broffesiynol. Mae eisoes yn gwneud enw iddo’i hun gyda’i fusnes ‘llaeth defaid’ ac rwyf yn falch iawn o gyhoeddi mai ef yw enillydd Gwobr Goffa Brynle Williams 2021,” dywedodd y Gweinidog.

“Mae pob un o’r enillwyr a’r rhai a enwebwyd ar gyfer Gwobrau Lantra Cymru eleni, drwy eu hymrwymiad i ddysgu gydol oes, yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i foderneiddio a phroffesiynoli’r diwydiant amaeth yng Nghymru.

“Mae eich ymdrechion chi yn helpu ein diwydiant i ddiogelu dyfodol ffermydd teuluol a chymunedau gwledig ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Hoffwn longyfarch pawb a gafodd ei enwebu eleni, yn enwedig ein henillwyr teilwng iawn”.

“Rwyf yn dymuno’r gorau i bob un ohonoch wrth i chi wneud eich marc ar amaethyddiaeth yng Nghymru a thu hwnt – mae dyfodol ein diwydiant mewn dwylo diogel iawn,” dywedodd y Gweinidog.

Cadeirydd y panel beirniaid eleni oedd yr amaethwr blaenllaw o Gymru Mr Peter Rees, cadeirydd Lantra Cymru. Roedd aelodau eraill y panel yn cynnwys yr arbenigwr Iechyd a Diogelwch amaethyddol Brian Rees, sydd hefyd yn gyn-gadeirydd Partneriaeth Diogelwch Ffermydd Cymru; Dr Nerys Llewellyn Jones, sylfaenydd, Rheolwr a Phartner cwmni cyfreithiol Agri Advisor a Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Lantra Cymru.

%d bloggers like this: