04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Transport - using mobile phone

Gyfraith ar ddefnyddio ffôn symudol wrth yrru wedi newid

ERS 2003, pan ddaeth yn drosedd benodol i ddefnyddio ffôn symudol i’r dwylo neu ddyfais debyg wrth yrru, mae ffonau symudol wedi datblygu i allu gwneud mwy na gwneud galwadau ffôn neu anfon negeseuon testun yn unig.

Gan fod y mwyafrif o ffonau symudol bellach yn gallu tynnu lluniau a fideos, ffrydio cerddoriaeth a ffilmiau, storio llyfrau a chwarae gemau, mae’r gyfraith wedi’i diweddaru i adlewyrchu hyn.

Bydd y rheoliad diwygiedig yn cynnwys unrhyw ddyfais sy’n gallu cyfathrebu’n rhyngweithiol hyd yn oed os nad yw’r swyddogaeth honno wedi’i galluogi ar y pryd, er enghraifft, am fod y data symudol wedi’i ddiffodd neu os yw’r ddyfais yn y modd hedfan.

Mae’r diffiniad o ‘ddefnyddio’ ffôn wedi’i ehangu i gynnwys y canlynol:

goleuo’r grin; gwirio’r amser; gwirio hysbysiadau; datgloi’r ddyfais; gwneud, derbyn neu wrthod galwad dros y ffôn neu ar y rhyngrwyd; anfon, derbyn neu uwchlwytho cynnwys llafar neu ysgrifenedig; anfon, derbyn neu uwchlwytho llun neu video; defnyddio camera, fideo neu recordio sain; drafftio unrhyw neges destun; cyrchu unrhyw ddata sydd wedi’i storio megis dogfennau, llyfrau, ffeiliau sain, lluniau, fideos, ffilmiau, rhestri chwarae, nodiadau neu negeseuon; cael mynediad i ap a cael mynediad i’r rhyngrwyd. 

Ers 2017, mae cosbau am ddefnyddio ffôn symudol â llaw wrth yrru wedi dyblu, gyda’r drosedd bellach yn cario hysbysiad cosb benodedig o £200 a 6 phwynt cosb. Mae hyn yn golygu y bydd gyrrwr yn colli ei drwydded ar ôl dwy drosedd neu os yw gyrrwr newydd yn dal ei drwydded ers llai na dwy flynedd, bydd un drosedd yn arwain at ddirymu’r drwydded.

Mae Diogelwch Ffyrdd Cymru yn croesawu’r diweddariad hwn yn y gyfraith ac yn argymell bod gyrwyr naill ai’n diffodd eu ffôn symudol ar ddechrau pob taith, yn ei roi mewn cwdyn blocio signalau neu’n ei roi allan o gyrraedd yn y blwch menig. Mae defnyddio system ddi-ddwylo hefyd yn debygol o dynnu’ch sylw oddi ar y ffordd. Mae’n llawer mwy diogel peidio â defnyddio unrhyw ffôn wrth yrru neu reidio.

Ddydd neu nos, p’un a yw’r ffyrdd yn dawel ai peidio, mae gyrru cerbyd yn gofyn am eich sylw llawn. Os ceisiwch chi ddefnyddio ffôn symudol neu ddyfais debyg wrth yrru, rydych chi’n rhoi defnyddwyr ffyrdd diniwed mewn perygl. Gall ennyd o fethiant i ganolbwyntio arwain at ganlyniadau dinistriol – arhoswch tan ar ôl parcio’ch cerbyd yn ddiogel cyn ceisio rhyngweithio â’ch ffôn.

%d bloggers like this: