04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

GYDA chanol tref fu’n dirywio ers degawdau, y cyfan wnaeth effaith COVID a’r cyfyngiadau a ddaeth yn ei sgil oedd gwaethygu pethau yn Llanelli.

Mae gan Gyngor Sir Gâr gynlluniau uchelgeisiol i fuddsoddi, ond rhaid i ni wneud mwy ac y mae arnom angen Llywodraeth Cymru newydd i arwain.

Mae diffyg arweiniad Llywodraeth Cymru wedi caniatáu i ganol llawer o drefi tebyg ledled Cymru ddioddef.

Mae gan Helen Mary Jones gynllun i adfywio canol y dref Llanelli mewn partneriaeth rhwng llywodraeth leol a llywodraethau cenedlaethol, gan ganolbwyntio ar y bunt Gymreigi, y mudiad ‘prynu’n lleol’ a busnesau ac egin-fusnesau annibynnol.

Dywedodd Helen Mary Jones:

“Mae’n bryd ail-feddwl o’r newydd am ganol tref Llanelli sy’n golygu cymaint i lawer.

“Mae gan Gyngor Sir Gâr dan arweiniad Plaid Cymru gynlluniau uchelgeisiol i fuddsoddi, ond rhaid i ni wneud mwy ac y mae arnom angen Llywodraeth Cymru newydd i arwain.

“Yn ystod y pandemig mae nifer cynyddol o fusnesau bychain hyper-leol ac entrepreneuriaid wedi dod i’r amlwg. Rhaid i ni feithrin y symudiad hwn, cefnogi ein manwerthwyr annibynnol presennol a chreu lle i’n entrepreneuriaid lleol  – buddsoddi mewn doniau lleol, cadw elw yng Nghymru a’r bunt Gymreig yn lleol.

“Byddai’n wych gweld ymdrech mewn partneriaeth yn y dref i berswadio’r landlordiaid absennol i roi cyfleoedd di-rent, i ailgyfeirio’r adeiladau mwy i’w gwneud yn addas i fusnesau llai a sicrhau bod yr adeiladau yn edrych yn ddeniadol ar y stryd.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau na fydd angen talu unrhyw ardrethi am yr holl flwyddyn ariannol hon, ac y mae nawr felly yn gyfle gwych i adennill y stryd fawr i’n masnachwyr bychain a chanolig.

“Er bod y dref wedi dirywio ers blynyddoedd lawer, ac eto, mae iddi le arbennig yng nghalonnau pobl Llanelli. Byddai’n wych cael canol y dref yn ffyniannus a bywiog unwaith eto.”

%d bloggers like this: