04/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Hen feddygfa Brynhyfryd cael defnyddio yn y gymuned unwaith eto

BYDD hen feddygfa ym Mrynhyfryd yn cael ei defnyddio gan y gymuned unwaith eto fel lleoliad i gefnogi teuluoedd, plant a phobl ifanc yn yr ardal.

Mae Cyngor Abertawe wedi prynu’r adeilad gwag ar Llangyfelach Road er mwyn creu un o bum Canolfan Cymorth Cynnar yn y ddinas.

Byddant yn adnoddau cymunedol i gefnogi teuluoedd, plant a phobl ifanc drwy ddod â staff gwasanaethau Cymorth Cynnar y cyngor ynghyd o dan yr un to.

Bydd y canolfannau hefyd yn cynnal gweithgareddau i gefnogi eu gwaith, fel grwpiau magu plant, tylino babanod, a grwpiau cefnogi i blant a phobl ifanc.

Bydd y canolfannau eraill mewn adeiladau cymunedol sydd eisoes yn eiddo i’r cyngor ym Mhenderi, Townhill, Cwm Tawe a gorllewin Abertawe.

Meddai Dave Howes, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Abertawe:

“Ein nod yw gwneud yn siŵr bod y gwasanaethau cywir ar gael ar yr adeg gywir, ac yn y lle cywir i bob plentyn a pherson ifanc, yn ôl ei anghenion.

“Bydd y Canolfannau Cymorth Cynnar yn darparu gwasanaethau ataliol a chefnogi i gyflawni gwell canlyniadau i blant, pobl ifanc a theuluoedd drwy ddarparu pecynnau cefnogi effeithiol i’r rheini y mae eu hangen arnynt.

“Drwy ddod â’r gwasanaethau hyn ynghyd o dan yr un to yn y pum cymuned hyn, byddant yn haws eu defnyddio gan y rheini y mae angen cefnogaeth arnynt.

“Mae hefyd yn ei gwneud hi’n haws i’n timau gydweithio ac integreiddio’n well gyda gwasanaethau sydd eisoes ar gael gan grwpiau’r trydydd sector neu grwpiau cymunedol.”

Bydd y canolfannau’n agor pan fydd cyfyngiadau COVID yn caniatáu ar gyfer hynny, ond yn y cyfamser mae staff yn parhau i weithio gyda phobl ifanc a theuluoedd yn uniongyrchol.

%d bloggers like this: