04/16/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Hwb ariannol ar gyfer rhwydwaith Men’s Sheds y ddinas

MAE naw prosiect sy’n darparu mannau cymunedol lle gall pobl o bob math o gefndiroedd gwrdd, sgwrsio a chymryd rhan mewn gweithgareddau i helpu i leihau unigrwydd ac arwahanrwydd wedi rhannu mwy na £30,000 o gyllid gan Gyngor Abertawe.

Darparwyd y grantiau i grwpiau newydd a’r rhai sydd eisoes yn bodoli er mwyn cefnogi ehangu Men’s Sheds yn y ddinas.

Mae’r Action Shack, sy’n cwrdd ar dir Canolfan Ddydd St John yn Nhrefansel ar fore dydd Iau bellach yn dechrau ei drydydd haf a bydd yn defnyddio’i grant i ddatblygu gardd gymunedol ymhellach, gan ychwanegu rhagor o seddi a chreu ardaloedd plannu uchel.

Meddai Gary Elward:

“Nawr ein bod ni bellach yn gallu cwrdd eto ar ôl y cyfyngiadau symud rydym yn dechrau defnyddio’n hardaloedd plannu i dyfu llysiau a gaiff eu dosbarthu o’r banc bwyd a agorodd yn y ganolfan ddydd yn ystod y pandemig, felly caiff y grant ei ddefnyddio er lles y gymuned gyfan.

“Mae ein holl aelodau’n falch iawn o fod yn ôl ar ôl y cyfyngiadau symud ac maent yn gwerthfawrogi’r cyfle i gwrdd, cymdeithasu a rhoi eu sgiliau ar waith os ydynt am wneud hynny.

“Os hoffai unrhyw un yn yr ardal ddod i weld a yw’n rhywbeth a fyddai o ddiddordeb iddo, gall alw heibio unrhyw fore ddydd Iau a bydd croeso cynnes iddo.”

Mae Summit Good yn Llansamlet yn bwriadu prynu cynhwysydd storio, stôf goed, offer a chreu cyflenwad ynni solar sy’n caniatáu i ddefnyddwyr y Men’s Shed ei ddefnyddio ym mhob tywydd.

Bydd The Old Blacksmith’s yng Nghlydach yn atgyweirio’r cynhwysydd sydd â chegin, toiled ac ardal dawel yn ogystal â phrynu cyfarpar ychwanegol.

Bydd Gweithdy Cymunedol Abertawe’n defnyddio’i grant i brynu offer sy’n cynnwys llif fwrdd a sandiwr drwm yn ogystal â rhoi arian tuag at wres ar gyfer y gaeaf fel y gall defnyddwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau crefft gan gynnwys gwaith coed trwy gydol y flwyddyn.

Bydd Oguf Adullum yn prynu cynhwysydd cludo ac yn cysylltu â chyflenwadau trydan a dŵr i greu Men’s Shed ym Mhen-lan gan gefnogi sgiliau cymdeithasol ac ymarferol.

Mae Bowls Dyfaty hefyd wedi derbyn cyllid i lansio Men’s Shed.

Ymysg yr ymgeiswyr llwyddiannus eraill oedd Chop Wood Carry Water, Canolfan Les Abertawe ac LGBT Cymru sy’n datblygu Men’s Shed.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gymunedau Gwell, y Cyng. Alyson Pugh:

“Mae Men’s Sheds yn cael effaith gadarnhaol iawn ar iechyd a lles ac wrth leihau arwahanrwydd cymdeithasol trwy ddefnyddio’r sgiliau a’r profiad sy’n bodoli yn ein cymunedau.

“Dyma’r ail flwyddyn y mae’r cyngor wedi gallu darparu cymorth uniongyrchol sylweddol trwy ein tîm Trechu Tlodi i’r prosiectau gwych hyn a byddwn yn darparu rhagor o gymorth yn ystod y 12 mis nesaf.

“Dwi wedi bod yn ddigon ffodus i ymweld â nifer o’r grwpiau hyn yn Abertawe i weld yr effaith drawiadol maent yn ei chael ar y rheini sy’n rhan ohonynt.”

%d bloggers like this: