04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Lansio prosiect ‘Tyfu’r Drenewydd’

YN dilyn ymgynghori â thrigolion a busnesau, bydd gwaith i ddechrau ar brosiect seilwaith gwyrdd ‘Tyfu’r Drenewydd’ yn dechrau dydd Llun, 7 Chwefror.

Mae prosiect ‘Tyfu’r Drenewydd’ yn rhan o Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru sy’n hybu adfywio economaidd a datblygiad cynaliadwy ehangach.

Law yn llaw â Chyngor Tref Y Drenewydd a Llanllwchaearn, mae Cyngor Sir Powys erbyn hyn wedi penodi contractwr lleol, SDW Construction Ltd a fydd yn dechrau gweithio yng nghanol y dref ddydd Llun 7 Chwefror.

Bydd y gwaith yn cynnwys gwaith tirlunio a gwella, gwella mynediad, newid seddi, mwy o fannau plannu a gwella’r cyfleusterau draenio, ac mae disgwyl i’r gwaith gymryd 16 wythnos.  Bydd cerddwyr yn gallu parhau i gyrraedd y siopau a busnesau ond bydd y Stryd Fawr ar gau i gerbydau dros gyfnod y gwaith.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Dywedodd y Cynghorydd Rosemarie Harris, Arweinydd Cyngor Sir Powys:

“Dyma newyddion da bod £670,000 o arian grant gan Lywodraeth Cymru wedi cael ei sicrhau ar gyfer prosiect Tyfu’r Drenewydd.

“Ynghyd â chyfraniad o £240,000 gan Gyngor Sir Powys ac £20,000 gan Gyngor Tref Y Drenewydd a Llanllwchaearn, gallwn wneud gwahaniaeth go iawn trwy adfywio pedair ardal yng nghanol y dref: cyffordd y Lôn Gefn a’r Stryd Fawr, y Stryd Fawr, Sgwâr Hafren a maes parcio Gas Street.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Heulwen Hulme, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd:

“Trwy brosiect Tyfu’r Drenewydd, fe welwn gwelliannau sylweddol i’r ardaloedd hyn megis gwaith i osod wyneb newydd, gwella’r mannau gwyrdd a’r systemau draenio.

“Rydym wir yn gwerthfawrogi’r adborth a’r sylwadau a gafwyd gan drigolion a busnesau Y Drenewydd wrth i ni ddatblygu’r prosiect hwn ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at weld yr holl waith caled yn dwyn ffrwyth dros yr wythnosau nesaf.”

Meddai cynrychiolydd o Gyngor Tref Y Drenewydd a Llanllwchaearn:

“Mae’n braf gweld y gwaith yn dechrau i drawsnewid ein Stryd Fawr ac yn hynod falch fod y dref wedi datblygu enw da am arloesi, buddsoddiad cynaliadwy a lle i adnewyddu.

“Mae’r prosiect yn gweddu’n dda gyda dymuniadau’r gymuned o fewn Cynllun Lle Y Drenewydd i wella ein strydoedd ac rydym yn croesawu’r buddsoddiad hwn yn y dref ar adeg anodd iawn.

“Yn anffodus, bydd y gwaith yn siwr o arwain at rywfaint o anghyfleustra er mwyn gallu gweithio’n ddiogel, ond yn y pen draw, y canlyniad fydd gwella’r profiad siopa.  Unwaith eto, rydym am ddiolch i fusnesau a thrigolion am eu cydweithrediad a’u dealltwriaeth wrth i ni wneud y gwaith gwella hyn yn y dref.”

%d bloggers like this: