MAE Cyngor Sir Penfro yn ymgynghori â thrigolion ar y bwriad i gyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus i atal yfed a chymryd cyffuriau ar y stryd mewn parth gwahardd yn Hwlffordd.
Os bydd y Gorchymyn yn cael ei dorri, gallai Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu neu swyddogion yr heddlu roi dirwy cosb benodedig o hyd at £100. Gallai methu â thalu hyn arwain at erlyniad a dirwy llys o hyd at £1,000.
Mae’r Cyngor yn ceisio barn y cyhoedd i fesur yr effaith mae ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig â sylweddau meddwol yn ei chael ar y cyhoedd yn y parth gwahardd arfaethedig.
Mae’r ymgynghoriad yn para tan 9 Mawrth 2022, gyda’r PSPO, os caiff ei gymeradwyo, yn debygol o ddod i rym yn ddiweddarach eleni. Gallwch gymryd rhan drwy lenwi ffurflen ymateb fer.
“Bwriad Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus yw delio â niwsans neu broblem benodol mewn ardal benodol sy’n niweidiol i ansawdd bywyd y gymuned leol,” meddai’r Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, Diogelu’r Cyhoedd a’r Gymraeg, y Cynghorydd Cris Tomas.
“Y prif fantais yw lleihau ymddygiad sy’n cael effaith negyddol ar gymunedau a’r amgylchedd, tra’n lleihau’r defnydd niweidiol o alcohol a chyffuriau ac amddiffyn pobl sy’n agored i niwed.”
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m