04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Menter Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Ynys Môn wedi eu henwebu am wobr Brydeinig

MAE menter Cyngor Sir sydd yn sicrhau bod plant Ynys Môn, sy’n derbyn gofal, yn mwynhau profiadau bywyd cadarnhaol wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr fawreddog y DU.

Mae’r cynllun Cartrefi Clyd wedi’i gydnabod am ei lwyddiant o ddarparu cartref diogel a chlyd i blant sy’n derbyn gofal.

Wedi’i lansio yn 2020, mae pob un o eiddo Cartrefi Clyd y Cyngor Sir yn darparu cartref i hyd at dri o blant. Mae tîm bach o weithwyr gofal yn gweithio yno er mwyn sicrhau parhad gofal y plant sy’n byw yno.

Mae’r cynllun Cartrefi Clyd yn pwysleisio’r angen i roi amser a sylw unigol i blant. Mae hyn yn helpu i feithrin perthnasau gwerthfawr a sicrhau bod y plant yn derbyn profiadau bywyd positif sy’n eu galluogi i dyfu i fod yn oedolion emosiynol iach.

Mae’r profiadau bywyd positif hyn yn helpu’r plant i ddod yn rhan o’u cymuned leol ac yn sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at wasanaethau fel unrhyw blentyn arall.

Nawr, mae’r cynllun Cartrefi Clyd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Plant Mewn Gofal, Gwobrau ‘Children and Young People Now’ 2022 a gynhelir ddydd Iau, 24 Tachwedd 2022 yng Nghlwb Hurlingham, Llundain.

Mae’r Wobr Plant Mewn Gofal yn cydnabod y cyfraniad a wneir gan awdurdod lleol neu ddarparwr gofal i wella canlyniadau ar gyfer plant neu bobl ifanc sy’n derbyn gofal boed hynny mewn gofal preswyl, gofal maeth neu leoliadau eraill.

Dywedodd, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Môn, Fôn Roberts:

“Mae cyrraedd rhestr fer y wobr fawreddog hon yn glod i’r holl staff a phartneriaid sydd ynghlwm â’r fenter ragorol hon. Mae’r gwasanaeth ar gael mewn tai arferol o fewn cymunedau lleol lle bydd teuluoedd eraill yn byw ac fel teuluoedd eraill, maent yn gartrefi lle mae plant yn cyd-fyw, gyda gofal 24 awr a chefnogaeth gan ein gofalwyr rhagorol.”

Ychwanegodd:

“Rwyf yn falch iawn o’r fenter Cartrefi Clyd a hoffwn ddiolch i Wasanaethau Tai ac Addysg Cyngor Môn a Llywodraeth Cymru am wneud hyn yn bosib. Diolch hefyd i’n Haelodau Etholedig am eu cefnogaeth barhaus ac i drigolion Ynys Môn am groesawu’r plant i mewn i’w cymunedau.”

Mae’r fenter yn galluogi plant i gynnal perthnasau iach â’r rhai hynny sy’n bwysig iddynt ac i gefnogi eu teimlad o hunaniaeth.

Dywedodd deilydd portffolio Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a Gwasanaethau Ieuenctid Cyngor Môn, y Cynghorydd Gary Pritchard:

“Mae cyrraedd rhestr fer y wobr hon yn llwyddiant mawr. Mae’n amlygu’r holl waith caled sydd wedi mynd i mewn i’r fenter, sydd wedi profi i fod yn hynod lwyddiannus.”

Ychwanegodd, “Llongyfarchiadau i’r holl staff, gwasanaethau a sefydliadau partner; heb eu hymroddiad a’u gwaith tîm, ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl.”

 

%d bloggers like this: