04/16/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Mudiad Meithrin yn amlinellu’r cymorth i’r cylchoedd meithrin adeg Covid-19

MAE Mudiad Meithrin wedi bod yn brysur iawn dros y misoedd diwethaf yn darparu cymorth i Gylchoedd Meithrin yn sgil pandemig Covid-19 – boed hynny drwy gynnig cymorth ariannol brys i’r Cylchoedd allu oroesi’r cyfnod hwn, neu drwy sefydlu llu o adnoddau newydd yn ddigidol ar gyfer helpu rhieni/gwarchodwyr barhau i gynnal y Gymraeg adref gyda plant.

Ers mis Mawrth, mae Mudiad Meithrin wedi:

Anfon dros 45 o fwletinau e-bost (2 neu 3 yr wythnos ar gyfartaledd) i’n holl aelodau i’w diweddaru gyda gwybodaeth gyfredol am y sefyllfa gan gynnwys sut i roi staff ar saib, gwybodaeth am grantiau a ffynonellau ariannol eraill, polisïau ac adnoddau, gweithdrefnau ail-agor ac unrhyw newidiadau neu wybodaeth pwysig o ddiddordeb iddynt;

Agor cronfa Grant Argyfwng y Mudiad er mwyn gallu cynnig cymorth ariannol i Gylchoedd Meithrin;

Cynnal ymgyrch godi arian ar-lein trwy ‘Just Giving’ ar gyfer coffrau’r Gronfa Argyfwng;

Creu 3 Llyfr Bach Piws, sef llyfrynnau yn cynnwys canllawiau ar bynciau arbenigol ar gyfer cynorthwyo Cylchoedd Meithrin yn ystod y pandemig a llawlyfrau penodol ar y cynllun saib;

Sefydlu ‘Clwb Cylch’ – sef arlwy sy’n dod â sesiwn cylch i’r cartref trwy sawl platfform digidol yn ddyddiol ers 1 Mehefin – i barhau tan ddiwedd Awst (cafodd y sesiynau eu gweld dros 28 mil o weithiau gan bobl yn yr wythnos gyntaf);

Cynnal Gŵyl Dewin a Doti Ddigidol gyda Martyn Geraint fel rhan o arlwy ‘Wythnos Cymraeg yn y Cartref’ ym Mehefin (mae’r fideos cael ei weld dros 7,800 o weithiau hyd yma);

Denu 1,293 o bobl i ymuno yn ein grŵp newydd ar Facebook, ‘Miri Meithrin’ – grŵp i rannu syniadau a gweithgareddau i rieni a/neu gwarchodwyr wneud gyda phlant bach;

Lobïo ar ran y sector mewn pwyllgorau lefel uchel o fewn Llywodraeth Cymru, trafod gydag Awdurdodau Lleol a phartneriaid fel Arolygiaeth Gofal Cymru, Estyn, WCVA, y Comisiwn Elusennau, y Loteri Genedlaethol, CBI Cymru;

Cynnig arlwy amser stori a chân ‘Cymraeg i Blant’ dros Zoom, Facebook Live a Trydar gan ddechrau gwasanaeth newydd ‘Fy Mabi a Fi’ i rieni newydd; a hefyd

Darparu Gwasanaeth Swyddog Cefnogi dros y ffôn, Skype ac e-bost, Gwasanaeth Adnoddau Dynol, Cyllid, Gweinyddol, Marchnata a Pholisi dros y ffôn, Skype, e-bost ac mewn syrjeris pwrpasol

Ym mis Gorffennaf penderfynodd y Mudiad i gynnig aelodaeth am ddim i’n holl aelodau am y flwyddyn 2020-2021 a agor grant newydd gwerth £250,000 o’r enw Grant Ail-agor ac Ail-adeiladu i Gylchoedd Meithrin sy’n wynebu heriau ariannol

Meddai Prif Weithredwr Mudiad Meithrin, Dr Gwenllian Lansdown Davies:

“Mae Cylchoedd Meithrin a meithrinfeydd – adnoddau cymunedol pwysig – wedi wynebu sawl her ddi-gynsail yn ystod y cyfnod clo ac mae Mudiad Meithrin wedi ymdrechu i wneud popeth o fewn ein gallu i’w cynorthwyo. Mae’r angen am gronfa grantiau gan Lywodraeth Cymru yn parhau er mwyn galluogi lleoliadau gofal plant i ail-agor ac ail-ddechrau darparu gwasanaethau i blant a theuluoedd. Byddwn yn parhau i bwyso am hynny.”

%d bloggers like this: