04/27/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Parth busnes newydd ar safle hen ffatri MetalBox Castell nedd datblygu’n dda

MAE gwaith gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot i drawsnewid cyn-ffatri eiconig Metal Box yng Nghastell-nedd i fod yn barth busnes ar gyfer creu swyddi yn datblygu’n dda, wrth i sawl swyddfa sydd wedi’u hadnewyddu ar y safle ddod yn barod i’w gosod.

Bu’r safle’n gartref i ffatri Metal Box – neu ‘The Box’ fel y galwai pobl leol y lle – am dros 70 mlynedd, a chaeodd am y tro olaf yn 2016.

Gyda chefnogaeth gan raglen fuddsoddi adfywio wedi’i dargedu Llywodraeth Cymru, prynodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot y safle yn 2019 gyda’r nod o greu cannoedd o swyddi.

Cafodd y prosiect hwb sylweddol pan brynodd Sevenoaks Modular ryw 50% o ardal gynhyrchu’r adeilad.

Mae gwaith adnewyddu’r Cyngor wedi canolbwyntio ar foderneiddio’r gofod swyddfa sy’n ymestyn dros dri llawr. Gwnaed y gwaith gan y contractwyr lleol i Bort Talbot, Andrew Scott Ltd.

Mae’r swyddfeydd ar eu newydd wedd bellach ar y farchnad i gael eu gosod, ac maen nhw’n cynnig sawl mantais, gan gynnwys:

Lle o ansawdd uchel yn arddull podiau, sy’n cynnig mwy o hyblygrwydd; Agos at Orsaf Reilffordd Castell-nedd a’r M4; Parcio ar gael i geir; Band llydan eithriadol gyflym ac hefyd lle ar gael dros dri llawr, gyda chwe chraidd ar wahân i alluogi pobl i ddefnyddio’r cyfan, neu drwy feddiannu switiau aden ar wahân.

Mae’r ffaith fod y parth busnes mor agos at Orsaf Reilffordd Castell-nedd a chanol tref  Castell-nedd yn golygu mai dim ond naw milltir sydd oddi yno i Abertawe, a 40 milltir i Gaerdydd.

Meddai’r Cynghorydd Annette Wingrave, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Adfywio a Datblygu Cynaliadwy:

“Roedd prynu safle’r cyn-ffatri yn y lle cyntaf yn arwydd o ymrwymiad y cyngor i Gastell-nedd a’i chymunedau, er mwyn sicrhau y byddai cyfleoedd ar gael i greu swyddi’n agos at ganol y dref a gerllaw ein cymunedau cyfagos yn y cymoedd.

“Y syniad oedd gweithio gyda busnesau lleol i ddarparu swyddfeydd a chyfleusterau eraill i greu cyfleoedd i ymestyn a thyfu, ac mae’n llwyddiant go iawn fod cymaint o gynnydd wedi digwydd ar y safle er gwaetha’r pandemig Covid-19.

“bellach mae gennym swyddfeydd yn barod i’w gosod ar y safle, gyda mwy o le posib ar gyfer creu swyddi’n aros i gael ei drawsnewid – bydd yn help mawr ar hyd llwybr adferiad yr ardal hon ar ôl y pandemig.”

Er bod llawer o’r gwaith adnewyddu wedi digwydd, mae sawl cam eto i ddod, gan gynnwys rhoi to newydd ar y rhan olaf o ofod swyddfeydd, sydd i fod i ddigwydd ymhen ychydig fisoedd.

Mae gan y safle gyn-ardal gynhyrchu ddiwydiannol hefyd, sy’n addas ar gyfer ystod o ddefnyddiau, o fewn rhychwant gweithgynhyrchu.

%d bloggers like this: