03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Pencadlys BBC Cymru Wales yn Sgwâr Canolog dod yn ganolfan ragoriaeth fyd-eang

CROESAWODD arweinydd Cyngor Caerdydd y newyddion heddiw y bydd y BBC yn ehangu ei weithrediadau y tu allan i Lundain, gyda newidiadau hanesyddol wedi’u cynllunio ar gyfer sut y bydd y sefydliad yn darparu Darlledu Sector Cyhoeddus yn y dyfodol.

Dywedodd y Cyng. Huw Thomas:

“Mae hyn yn newyddion da iawn i Gaerdydd. Bydd cyfleoedd gwaith cyffrous, newydd yn cael eu creu, nid yn unig yn y BBC, ond ledled y ddinas. Swyddi a fydd o fudd i’r sector cynhyrchu a’r diwydiannau creadigol sydd eisoes yn ffynnu yn y ddinas.

“Mae penderfyniad y BBC yn cyfiawnhau strategaeth diwydiannau creadigol y cyngor hwn a’n penderfyniad i adfywio’r Sgwâr Canolog ac i osod BBC Cymru fel tenant angori’r datblygiad. Mae’n dangos bod y strategaeth yn talu ar ei ganfed. Mae’n amlwg bod sector creadigol Caerdydd yn adeiladu enw rhagorol a chwbl haeddiannol.”

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cyng Russell Goodway:

“Mae hon yn foment hollbwysig i’r diwydiant darlledu a’r sector creadigol yng Nghymru. Mae’r cyhoeddiad diweddar yn hwb enfawr i’r ddinas, gan ategu’r rhesymau pam mae pencadlys newydd y BBC wedi’i adeiladu yn y Sgwâr Canolog. Bydd hyn yn dod â swyddi a chyfleoedd newydd i’r ddinas.

“Rydym yn ystyried hyn fel dechrau cyfnod newydd i’r diwydiannau darlledu a chynhyrchu, yng Nghaerdydd ac yng ngweddill Cymru, yn cefnogi twf cynhwysol tra’n sbarduno arloesedd yn y maes sy’n tyfu gyflymaf yn ein heconomi leol.

“Mae’r cyngor hefyd yn croesawu’r cyflwyniad diweddar gan Tim Davie, Cyfarwyddwr Cyffredinol newydd y BBC, i Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Senedd, lle cafodd ei gwneud yn glir iawn y bydd Caerdydd yn chwarae rhan allweddol yn allbwn y BBC yn y dyfodol.”

Wrth groesawu’r cynlluniau, dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr y Cenhedloedd a BBC Cymru:

“Mae’r cynllun hwn yn ymwneud â dod â’r BBC cyfan hyd yn oed yn nes at y cynulleidfaoedd – yma yng Nghymru a ledled y DU.

“Mae’n drawsnewidiad o’r brig i’r gwaelod – ac yn ymrwymiad gan bob rhan o’r BBC i wreiddio ein gwasanaethau a’n straeon ym mywydau ein cynulleidfaoedd.

“Bydd ein hymrwymiad i wario £700m yn fwy y tu allan i Lundain yn sbarduno cyfleoedd newydd i greu swyddi a datblygu sgiliau yn sector cynhyrchu Cymru.

“Rwy’n arbennig o falch y bydd Cymru’n dod yn ganolfan ragoriaeth fyd-eang ar gyfer newyddiaduraeth hinsawdd a gwyddoniaeth. Does yr un stori’n bwysicach – ac rwy’n falch iawn y bydd Cymru’n cael y cyfle i arwain y ffordd.”

Yn ystod y cyhoeddiad heddiw, datgelodd y BBC gynllun chwe blynedd i ail-greu’r sefydliad gyda phresenoldeb llawer cryfach yn y pedair gwlad, gan gynnwys:

Cymru fydd canolfan ragoriaeth y BBC ar gyfer newyddiaduraeth Hinsawdd a Gwyddoniaeth;

Am y tro cyntaf yn hanes y BBC, bydd y rhan fwyaf o raglenni  teledu rhwydwaith y BBC yn cael eu cynhyrchu y tu allan i Lundain – o leiaf 60% erbyn 2027;

Erbyn 2027/28 bydd y BBC yn gwario cyfanswm o £700m ychwanegol o leiaf ledled y DU – gan greu budd economaidd ychwanegol o dros £850 miliwn;

Bydd ugain o gyfresi drama a chomedi rhwydwaith wedi eu lleoli  yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon dros y tair blynedd nesaf;

Bydd Newsnight ar BBC Two yn cael ei gyflwyno o Gaerdydd, Belfast, Glasgow a Manceinion drwy gydol y flwyddyn, a

Dros y chwe blynedd nesaf, bydd y BBC yn harneisio mwy o bersonoli ar-lein i sicrhau bod cynnwys Cymraeg yn fwy amlwg ac yn haws cael gafael arno.

%d bloggers like this: