04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

MAE Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi penodi Cyfarwyddwr Anweithredol interim newydd yn aelod o’i Fwrdd.

Gwnaeth Ceri Jackson, sydd wedi bod mewn nifer o uwch swyddi yn y sector elusennol, ymgymryd â’i rôl newydd ar 1 Ebrill 2021 a bydd yn gwasanaethu am 12 mis.

Dywedodd Ceri, sy’n byw yng Nghaerdydd ac sy’n Gyfarwyddwr Anweithredol y Gymdeithas Strôc a Sight Life: “Mae’n fraint bod yn ymuno gyda’r Bwrdd ar yr adeg dyngedfennol hon.

“Mae’r sefydliad wedi ymateb i’r heriau arwyddocaol a digynsail yn deillio o’r pandemig ac rydw i’n cydnabod blwyddyn mor heriol y bu i’r staff a’r Bwrdd.

“Rydw i’n edrych ymlaen at weithio gyda’r Bwrdd a’r staff ar eu rhaglen uchelgeisiol i weddnewid gwasanaethau i bobl ledled Cymru.”

Roedd Ceri’n Gyfarwyddwr Strategaeth a Gweddnewid interim Tŷ Hafan tan y llynedd, ac mae wedi gweithio’n flaenorol fel Cyfarwyddwr a Phennaeth y Gymuned yn Sefydliad Brenhinol y Deillion (RNIB).

Mae hi wedi bod yn aelod o nifer o Fyrddau yng Nghymru’n flaenorol er mwyn cynorthwyo i adolygu polisi ac arferion ar draws ystod o feysydd, yn cynnwys iechyd, gofal cymdeithasol a thai.

Dywedodd y Cadeirydd, Martin Woodford: “Rydym ni wrth ein boddau ein bod wedi penodi Ceri, sy’n dod â chyfoeth o brofiad ar draws ystod eang o bortffolios, yn ogystâl â hanes llwyddiannus o gyflawni gwella trwy gydweithredu a phartneriaethau strategol.

“Mae’n amser hanfodol bwysig i’n gwasanaeth ambiwlans ni wrth i ni ganfod ein ffordd allan o bandemig byd-eang, tra’n ceisio adeiladu ar y gwaith da a wnaed hyd yma i weddnewid a gwella ein gwasanaeth ambiwlans, ac edrychwn ymlaen at y cyfraniad y bydd Ceri’n ei wneud.

“Rwy’n gwybod y bydd cydweithwyr yn ymuno gyda mi i estyn croeso cynnes iawn i Ceri.”

Mae Bwrdd yr Ymddiriedolaeth yn cynnwys y Cadeirydd a Chyfarwyddwyr Anweithredol, y Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwyr Gweithredol yn ogystal â phartneriaid Undeb Llafur, gyda phawb yn gweithio ar y cyd fel y Bwrdd Gweithredol.

Penodir Cyfarwyddwyr Anweithredol am gyfnod penodol gan y Gweinidog Iechyd ac maent yn darparu barn annibynnol, cefndir amrywiol ac amrediad eang o sgiliau ac arbenigedd i’r Bwrdd o’u profiad yn y sector cyhoeddus, y trydydd sector neu’r sector preifat.

Maent yn gweithio gyda’r Cyfarwyddwr Gweithredol i ddatblygu strategaeth a pholisi a sicrhau llywodraethu cadarn, a sicrhau fod yr Ymddiriedolaeth yn darparu gwasanaethau ac yn perfformio’n effeithiol ar lefel strategol a gweithredol.

%d bloggers like this: