04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Plaid Cymru yn cyhuddo’r Mark Drakeford o “wfftio’r Gymraeg” drwy wrthod cymryd rhan yn nadl S4C

MAE Sian Gwenllian, ymgeisydd Plaid Cymru dros Arfon a llefarydd y blaid dros yr iaith wedi cyhuddo’r Prif Weinidog Mark Drakeford o “wfftio’r Gymraeg” drwy wrthod cymryd rhan yn nadl deledu S4C dridiau cyn Etholiad y Senedd ar Fai’r 6fed.

Dywedodd Sian Gwenllian fod penderfyniad Mr Drakeford yn “sarhad i’r iaith a chynulleidfa’r sianel genedlaethol”, yn enwedig ag yntau wedi cymryd rhan yn nadl cyfrwng Saesneg BBC Wales yr wythnos flaenorol.

Meddai Sian Gwenllian:

“Mae’r dadleuon teledu yn fforwm hollbwysig yn ystod yr etholiad. Maent yn rhoi’r cyfle i arweinwyr y pleidiau i osod eu stondin gerbron yr etholwyr ac yn rhoi cyfle i’r cyhoedd a’r cadeiryddion i’w dwyn i gyfri ar eu haddewidion.

“Drwy wrthod cymryd rhan yn nadl S4C wythnos nesaf, mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn wfftio’r Gymraeg ac dangos nad yw’n ystyried hon i fod yn ddadl sydd yr un mor bwysig a dadl Saesneg BBC Wales yr wythnos diwethaf.

“Mae agwedd Mr Drakeford yn sarhad i’r iaith a chynulleidfa’r sianel genedlaethol ac yn tanseilio’n llwyr ymrwymiad y Blaid Lafur i filiwn o siaradwyr Cymraeg.

“Os nad yw’r Prif Weinidog ei hun yn trin yr iaith gyda pharch yna sut mae disgwyl iddo osod esiampl i eraill?”

%d bloggers like this: