MAE Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn ymuno â Cadwch Gymru’n Daclus i gefnogi Caru Cymru, y fenter fwyaf erioed i gael gwared ar sbwriel a gwastraff.
Nod Caru Cymru yw ysbrydoli trigolion i weithredu a gofalu am yr amgylchedd drwy wneud arferion da yn ail natur, o fynd â sbwriel adref a glanhau ar ôl cŵn, ailgylchu ‘wrth fynd’, ailddefnyddio ac atgyweirio.
Mae Caru Cymru wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-20, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Meddai’r Dirprwy Arweinydd Hywel Williams:
”Mae’r cyngor yn falch o weithio ochr yn ochr â Cadwch Gymru’n Daclus fel rhan o’n prosiect ‘Caru… a’i Chadw’n Lân!’, sy’n cynnwys cynghorau cymuned ac ysgolion ym Mhorthcawl, Corneli, Y Pîl, Mynydd Cynffig, Cefn Cribwr a Bracla, gan annog trigolion i ymfalchïo yn eu cymuned a helpu i’w gadw’n rhydd o sbwriel.
Cyn bo hir, byddwn yn lansio fersiwn ddigidol ar gyfer ysgolion yng Nghwm Ogwr a byddwn yn parhau i weithio gyda Cadwch Gymru’n Daclus i sefydlu canolfannau sbwriel newydd pan fydd cyfyngiadau coronafeirws yn caniatáu, fel y gall gwirfoddolwyr gael mynediad at offer ar gyfer casglu sbwriel. Rydym hefyd yn bwriadu cyflwyno mwy o orsafoedd bagiau baw cŵn i berchnogion anifeiliaid anwes os ydynt wedi’u hanghofio ar daith gerdded a biniau lliwgar i annog pobl i beidio â gollwng gwm ar y llawr.
Drwy ddod at ein gilydd i greu amgylchedd glân a diogel, gallwn adeiladu cymunedau cryfach ac iachach a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’n planed.”
Mae trigolion Ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a ledled Cymru yn cael eu hannog i ymuno â’r mudiad newydd a gallant ymweld â gwefan Cadwch Gymru’n Daclus Caru Cymru (External link – Opens in a new tab or window) i ddysgu mwy.
Wrth siarad am yr ymgyrch, dywedodd Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus:
“Mae gan bob person yng Nghymru ran i’w chwarae wrth gael gwared ar sbwriel a gwastraff a all achosi difrod mawr i’n cymunedau ac i’n hamgylchedd naturiol.
“Rwy’n falch o fod yn rhan o fenter sy’n dod â phobl at ei gilydd, ac yn darparu’r offer, yr arloesedd a’r gefnogaeth sydd eu hangen i wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Nid yw Caru Cymru yn glwb ecsgliwsif – gall pawb ymuno.”
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m