MAE’r llanast £175m o gyllid – dryswch ynglŷn â chostau byw yn amlygu’r angen am eglurder ariannol, meddai Plaid Cymru.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros gyllid, Llŷr Gruffydd AS,
“Mae dyfroedd tywyll y trefniant ariannu rhwng San Steffan a Llywodraeth Cymru wedi cael eu codi unwaith eto. Mae’n ymddangos bod dryswch cyson ynghylch cyllid canlyniadol i Gymru, sy’n amlygu’r gwendidau yn y setliad datganoli presennol.
Ar Ddydd Iau 3 Chwefror, cyhoeddodd y Canghellor, Rishi Sunak, ad-daliad treth gyngor ar gyfer Lloegr, ac mewn ymateb i gydweithiwr as o Gymru, ychwanegodd “Gallaf gadarnhau y bydd y Gweinyddiaeth Cymreig yn derbyn tua £175 miliwn mewn cyllid canlyniadol Barnett.”
Yn dilyn y cyhoeddiad, cyhoeddodd y Ceidwadwyr Cymreig ddatganiad i’r wasg lle gwnaethant awgrymiadau ar gyfer yr hyn y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio’r “£175m newydd” ar ei gyfer.
Dydd Mercher 9 Chwefror, fe wnaeth y Prif Weinidog Mark Drakeford drydar am y ffigwr £175m, gan ddweud “rydym wedi dysgu nad oes arian ychwanegol i Gymru.”
Cafodd y trydariad ei dadlai ar unwaith gan Simon Clark AS, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, a ddywedodd “Bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £180m o gyllid canlyniadol Barnett o ganlyniad i ad-daliad y Dreth Gyngor a gyhoeddwyd gan y Canghellor.”
Meddai Llŷr Gruffydd:
“Er gwaethaf nifer o geisiadau am fwy o dryloywder ynghylch y broses hon, mae’n ymddangos bod llywodraeth San Steffan yn fodlon i Gymru orfod chwarae gêm ddyfalu gyson o ran cyllid.
“O ran delio â chostau argyfwng byw, mae pobl Cymru yn haeddu gwell na chael eu dal yng nghanol gwrthdaro geiriol ar Twitter rhwng y ddwy lywodraeth.”
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m