04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Mae Cabinet Cyngow Powys wedi gosod sêl bendith i gyflwyno Achos Busnes Llawn i Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, Llywodraeth Cymru am fuddsoddiad cyfalaf am adeiladau newydd ar gyfer Ysgol Cedewain..

Amcangyfrif o gostau’r prosiect yw £19.7m gyda Llywodraeth Cymru’n ariannu 75% o’r costau a’r cyngor yn talu’r 25% sy’n weddill.

Mae’r cynlluniau ar gyfer Ysgol Cedewain yn rhan o Raglen Trawsnewid y cyngor i wireddu dyheadau Gweledigaeth 2025 ynghyd â chyflwyno’r Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys 2020-2030.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Dywedodd Karen Gittins, Pennaeth Gweithredol Ysgol Cedewain:

“Dyma gyfnod cyffrous i’r gymuned leol ac i gymuned yr ysgol arbennig ym Mhowys.  Bydd plant gydag anghenion cymhleth iawn yn gallu manteisio ar gyfleusterau gwych mewn amgylchedd diogel a bydd yr ysgol newydd yn gwella’u profiadau dysgu nhw a’u cyfoedion am flynyddoedd i ddod.”

Meddai y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet dros Addysg ac Eiddo:

“Rwy wrth fy modd i ni gael y caniatâd cynllunio a bod y Cabinet wedi rhoi sêl bendith i gyflwyno’r Achos Busnes Llawn i Lywodraeth Cymru am fuddsoddiad cyfalaf.  Bydd ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer Ysgol Cedwain yn arwain at gyfleusterau o’r radd orau i’n dysgwyr sydd fwyaf agored i niwed.

“Pan fydd yn barod, bydd yn cynnig amgylchedd lle bydd staff addysgu’n gallu ffynnu a rhoi cyfleusterau sy’n ateb anghenion dysgwyr sy’n agored i niwed, a’u galluogi i elwa a mwynhau dysgu.”

%d bloggers like this: