04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Prydles newydd wedi’i llofnodi ar gyfer Mart Caerfyrddin

MAE Cyngor Sir Caerfyrddin wedi sicrhau dyfodol Mart Caerfyrddin, gyda lesddeiliad newydd a’r addewid o fuddsoddiad newydd a swyddi newydd i’r ardal.

Mae Nock Deighton Agricultural LLP, sy’n rhedeg Marchnad Da Byw lwyddiannus Castellnewydd Emlyn, wedi ennill y tendr i redeg y mart yn Nant-y-ci.

Bydd y cwmni’n gwneud buddsoddiad cychwynnol sylweddol i uwchraddio’r cyfleusterau, ac mae’n bwriadu creu 19 o swyddi lleol, yn ogystal â darparu gwaith i arwerthwyr lleol.

Dywedodd y Cynghorydd David Jenkins, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau:

“Mae Mart Caerfyrddin yn elfen bwysig o economi wledig Sir Gaerfyrddin, ac rydym yn falch o allu cynnig y cyfle hwn i Nock Deighton. Mae gan y cwmni hanes hir a gwych o redeg marchnadoedd da byw mawr – gan gynnwys y mart llwyddiannus iawn yng Nghastellnewydd Emlyn – ac ymrwymiad cryf i leoliaeth. Mae’r cwmni’n addas iawn i Mart Caerfyrddin ac edrychwn ymlaen at gysylltiad hir a llwyddiannus â nhw wrth i ni symud y mart yn ei flaen.”

Mae cwmni Nock Deighton yn 190 mlwydd oed ac ar hyn o bryd mae’n rhedeg Canolfan Da Byw ac Arwerthiant fawr Bridgenorth yn Swydd Amwythig.

Ers cymryd dros farchnad da byw Castellnewydd Emlyn yn 2018 mae wedi cynyddu’r defnydd dros 60 y cant, gan droi marchnad oedd yn dirywio yn farchnad ffyniannus.

Dywedodd cynrychiolydd Nock Deighton:

“Mae Partneriaid Nock Deighton Agricultural LLP yn falch iawn o fod wedi cael y cyfle i redeg Mart Caerfyrddin yn y dyfodol agos iawn.
“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddatblygu’r busnes, ochr yn ochr â’n marchnadoedd presennol yng Nghastellnewydd Emlyn a Bridgnorth, ac wrth wneud hynny ddarparu cyflogaeth o ansawdd da i bobl leol – rhywbeth rydym wedi ymrwymo iddo ac yn edrych ymlaen at ei wneud.
“Rydym yn gobeithio darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i’n holl gwsmeriaid, yn y prif gyfleuster da byw ar gyfer cymunedau gwledig gorllewin Cymru a thu hwnt.”

Mart Mae gan y mart yn Nant-y-ci ddau gylch arwerthu gyda llociau cysylltiedig ar gyfer gwartheg, defaid a moch ynghyd â chyfleusterau modern pwrpasol gan gynnwys derbynfa a swyddfa mart, caffi a bar.

%d bloggers like this: