GALL gweithwyr llawrydd Powys yn y sectorau diwylliannol a chreadigol sy’n parhau i wynebu caledi ariannol oherwydd Covid fod yn gymwys i gael rhagor o gymorth.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ail gam y Grant Llawrydd i helpu i leddfu’r pwysau sy’n parhau i fod ar lif arian gweithwyr sydd yn y meysydd a effeithir arnynt.
Unwaith eto, bydd y grantiau £2,500 yn cael eu prosesu gan Gyngor Sir Powys yn ôl meini prawf a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y gronfa’n blaenoriaethu’r rhai yr effeithir arnynt fwyaf mewn diwydiannau sydd wedi’u heffeithio’n fawr, megis digwyddiadau, cerddoriaeth a’r celfyddydau perfformio. Ni ddylai gweithwyr llawrydd sy’n gweithio fel arfer neu’n agos at lefelau arferol wneud cais am y cyllid.
Bydd angen i weithwyr llawrydd cymwys lenwi ffurflen ar-lein syml ar wefan y cyngor sy’n agor ddydd Llun 17 Mai ac yn cau ddydd Mawrth 1 Mehefin.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Davies, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar faterion Cyllid:
“Unwaith eto, bydd y cyngor yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu cymorth hanfodol i weithwyr llawrydd ym Mhowys drwy’r cynllun hwn.
“Cafodd llawer o bobl fudd o’r cam cyntaf, a byddwn yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod pobl yn cael y grant diweddaraf lle maent yn gymwys i’w gael.
“Rwy’n gobeithio y bydd ymestyn y cymorth hwn yn rhyddhad i weithwyr llawrydd ar ôl cyfnod hir o ansicrwydd.”
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m