04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Rhondda Cynon Taf yn buddsoddi mewn tair ysgol

MAE Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cadarnhau bod cynlluniau buddsoddi sylweddol ar gyfer Ysgol Gynradd Ffynnon Taf, Ysgol Gynradd Cwmlai ac Ysgol Gyfun Rhydywaun wedi cael caniatâd cynllunio.

Bydd y cynlluniau’n galluogi’r ysgolion dan sylw wneud rhagor i ateb y galw’n lleol yn ogystal â darparu cyfleusterau newydd sbon i staff a disgyblion.

Ysgol Gynradd Ffynnon Taf, Ffynnon Taf:

Roedd cais y Cyngor yn cynnwys cynllun i adeiladu bloc newydd ar wahân i gynnwys pedair ystafell ddosbarth a neuadd ysgol. Bydd yr adeilad modern yma’n cael ei gyflwyno yn lle’r tair ystafell ddosbarth dros dro, a bydd yn cael ei ddefnyddio ochr yn ochr â’r adeilad Fictoraidd sydd wedi’i adnewyddu’n ddiweddar.

Bydd y cynllun yn cynyddu capasiti’r ysgol, sy’n hanfodol yn sgil datblygiadau tai cyfagos. Bydd yn cael ei gyflawni trwy gyfanswm o dros £3 miliwn o fuddsoddiad gyda chyfraniad o £1 miliwn o Grant Cyfalaf Canolfannau’r Gymuned Llywodraeth Cymru, a chyfraniad gan yr Ardoll Seilwaith Cymunedol.

Fe wnaeth Swyddogion argymell y cais i gael ei gymeradwyo, a nododd y Swyddogion mewn adroddiad ei fod yn cydymffurfio â pholisïau perthnasol y Cynllun Datblygu Lleol, ac y byddai’r datblygiad yn cyfrannu at adeiladu cryf a chynaliadwy i’r gymuned wrth ddarparu gwell cyfleusterau i’r ysgol.

Rhan unigryw o’r cynllun yma yw Prosiect Rhwydwaith Adfer Gwres y Gwanwyn Ffynnon Taf, sy’n cynnig defnyddio unig ffynnon thermol naturiol Cymru yn ffynhonnell gwres carbon isel ar gyfer systemau gwresogi’r bloc ysgol newydd.

Ysgol Gynradd Cwmlai, Tonyrefail:

Roedd y cais cynllunio yn cynnwys estyniad unllawr, gyda thair ystafell ddosbarth newydd a thoiledau newydd, ystafell blanhigion ac ardaloedd storio. Roedd hefyd yn cynnwys Ardal Gemau Aml-ddefnydd newydd a phedwar lle parcio ychwanegol.

Bydd yr adeilad newydd yn sicrhau cartref newydd sy’n addas at y diben i’r ddau leoliad gofal plant presennol, sydd â lle cyfyngedig ar hyn o bryd. Mae’r ysgol hefyd angen rhagor le er mwyn lleddfu’r pwysau ar gyfleusterau a darparu lle hyblyg i’w ddefnyddio yn ystod y diwrnod ysgol ac ar gyfer clybiau ar ôl ysgol.

Ysgol Gyfun Rhydywaun, Pen-y-waun:

Roedd cais cynllunio’r Cyngor yn cynnwys dymchwel tŷ’r gofalwr ac adeiladu cyfleusterau sylweddol ar gyfer addysgu a chwaraeon ar dir yr ysgol bresennol. Mae’r rhain yn cynnwys bloc o wyth ystafell ddosbarth newydd gydag ystafelloedd cymunedol, cyfleusterau drama a cherddoriaeth, ynghyd â derbynfa newydd i’r ysgol, neuadd chwaraeon, ystafell ffitrwydd ac ystafelloedd newid.

Bydd y gymuned hefyd yn gallu defnyddio rhai o’r cyfleusterau yma, mewn ardal ar wahân i’r disgyblion. Bydd hefyd man parcio newydd gyda 45 o leoedd ychwanegol, ynghyd â lle i storio beiciau.

Bydd y cynlluniau gwerth £12.1 miliwn yn elwa o 65% o gyllid gan Lywodraeth Cymru trwy’r Rhaglen Ysgolion a Cholegau yr 21ain Ganrif, a bydd yn ychwanegu 187 lle cyfrwng Cymraeg ychwanegol i’r ysgol (gan godi capasiti o 1,038 i 1,225).

Argymhellwyd cymeradwyo’r cais, gyda Swyddogion yn nodi’r cynnydd mewn capasiti, gwelliannau i amgylchedd yr ysgol, darparu cyfleusterau sydd mawr eu hangen ymhlith y gymuned a maes parcio ar y safle i fynd i’r afael â’r diffyg presennol. Ystyriwyd bod graddfa a dyluniad y cynigion hefyd yn briodol.

Meddai’r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant:

“Rwy’n falch iawn bod y tri datblygiad cyffroes wedi derbyn caniatâd  cynllunio llawn gan y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu. Mae’r datblygiadau wedi’u targedu i ddarparu capasiti i ateb y galw ar gyfer ysgolion y cymunedau yma. Bydd y prosiectau’n adeiladu ar y cynnydd rhagorol a wnaed o ran darparu  cyfleusterau gwell i ddisgyblion trwy lwybrau cyllido Ysgolion yr 21ain Ganrif a Moderneiddio Ysgolion.

“Bydd y datblygiad yn Ysgol Gyfun Rhydywaun hefyd yn cyfrannu at y nodau yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y Cyngor i gynyddu’r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn Rhondda Cynon Taf a gwneud cyfraniad lleol i weledigaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru i gyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg ar draws Cymru o fewn y 30 mlynedd nesaf.

“Yn y cyfamser, mae’r prosiect yn Ysgol Gynradd Ffynnon Taf yn arbennig o unigryw gan ei fod yn bwriadu defnyddio unig ffynnon thermol naturiol Cymru, sydd wedi’i leoli ym mhentref Ffynnon Taf i gynhesu bloc newydd yr ysgol. Dyma broses arloesol, gynaliadwy nad oes modd ei hefelychu yn unman arall yng Nghymru, a bydd yn cyfrannu at strategaeth Net Zero ehangach y Cyngor a thargedau newid hinsawdd.

“Nawr eu bod wedi rhoi caniatâd cynllunio llawn, mae’r Cyngor bellach yn gallu bwrw ati i ddatblygu’r tri phrosiect er mwyn cyflawni’r gwaith ar eu safleoedd. Rydw i’n edrych ymlaen at weld cynnydd pellach gyda’r prosiectau yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf.”

%d bloggers like this: